Ymchwiliad i dân bwriadol mewn plasty hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn dweud eu bod yn ymchwilio i dân a gafodd ei gynnau'n fwriadol ar stad plasty hanesyddol yng Nghaernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Blas Tŷ Coch, un o'r adeiladau ar dir ystâd Plas Brereton, tua 18:20 nos Iau.
Mae'r adeiladau'n wag ac wedi dirywio'n ddifrifol yn y 15 mlynedd diwethaf.
Cafodd dwy injan dân o Gaernarfon eu danfon i ddiffodd y fflamau sydd wedi effeithio ar ddrws a nenfwd yr adeilad.
Dywedodd llefarydd bod nifer o danau wedi bod yn yr eiddo yn y blynyddoedd diwethaf a'u bod yn cynnal ymchwiliad.
Mae'r ystâd mewn lleoliad amlwg ar gyrion Caernarfon.
Roedd cwmni Cabot Park Ltd wedi gobeithio troi Plas Brereton yn westy a thŷ bwyta a chreu 18 o unedau gwyliau ar y tir, ond dyw'r cwmni heb wireddu'r cynlluniau datblygu a roddwyd yn 2015.
Doedd Plas Tŷ Coch ddim yn rhan o'r cynlluniau hynny.