Pecynnau diogelwch i ddefnyddwyr cyffuriau 'yn llwyddo'

  • Cyhoeddwyd
Safeloc Kit
Disgrifiad o’r llun,

Mae pecynnau Safeloc yn atal y nodwydd rhag cael ei thynnu allan, gan olygu ei fod yn fwy diogel

Mae pecyn diogelwch newydd sy'n cael ei roi i ddefnyddwyr cyffuriau yn llwyddiant, yn ôl gweithwyr ym maes cyffuriau.

Mae offer Safeloc yn cloi o gwmpas y nodwydd ac yn torri ei blaen - does dim posib cael y nodwydd allan o'r cas.

Ers mis Gorffennaf, mae'r pecynnau yn cael eu rhannu i filoedd o ddefnyddwyr cyffuriau ar draws Cymru.

Dywedodd rheolwr gwasanaeth cyffuriau Caerdydd, Leanne Bruford bod mwy o ddefnyddwyr bellach yn dychwelyd eu nodwyddau er mwyn sicrhau bod modd cael gwared ohonynt yn ddiogel.

34,684 o nodwyddau a biniau

Cafodd y pecynnau eu cyflwyno gyntaf yng Nghaerdydd wedi i drigolion Trebiwt ddweud bod nifer o nodwyddau yn cael eu taflu ar y stryd, ac y gallai hynny fod yn berygl i blant sy'n chwarae yn yr ardal.

Yn 2017/18, cafodd 34,684 o nodwyddau a biniau eu rhannu i ddefnyddwyr cyffuriau mewn lle cyfnewid nodwyddau - man lle mae pobl yn cael offer am ddim a chyngor cyfrinachol am arferion chwistrellu.

O'r nodwyddau gafodd eu rhannu cafodd 66% eu dychwelyd ar gyfer eu gwaredu'n ddiogel - 39% yn fwy na 2016/17.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Leanne Bruford mae'r offer yn sicrhau bod mwy o nodwyddau yn cael eu dychwelyd

Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw rhoi'r nodwydd yn y pecyn plastig.

Unwaith bod hynny wedi digwydd nid yw'n bosib ailddefnyddio'r nodwydd - dim ots faint yw'r ymdrech i'w chael o'r pecyn.

Dywedodd Ms Bruford mai un rheswm bod mwy o nodwyddau yn cael eu dychwelyd yw bod yr offer yn caniatáu i ddefnyddwyr gario nodwyddau brwnt yn eu pocedi neu bagiau yn ddiogel.

Ychwanegodd: "Petai rhywun yn trio cael y nodwydd allan, mi fyddai hynny'n amhosib.

"Petai rhywun yn defnyddio cyllell Stanley neu lif ac yn llwyddo i gael y nodwydd allan - mi fyddai hynny'n ddiwerth gan y byddai'r nodwydd wedi torri beth bynnag."

Cafodd y pecyn Safeloc ei ddatblygu gan Orion er mwyn sicrhau na fyddai defnyddwyr yn taflu nodwyddau neu offer arall, gyda'r bwriad o atal defnyddwyr rhag defnyddio yr un nodwyddau.

Y gobaith yw y bydd yr offer yn atal clefydau rhag lledu, gostwng sbwriel cyffuriau a'r niwed i'r cyhoedd ac hefyd yn costio llai i'r GIG.

Sut mae pecyn Safeloc yn gweithio?

  • Wedi chwistrellu rhaid i'r defnyddiwr roi'r nodwydd mewn tiwb;

  • Mae'r nodwydd yn torri wrth iddi fynd mewn gan fod pen uchaf y tiwb yn culhau;

  • Mae'r nodwydd yna yn gaeth o fewn y tiwb a does dim modd ei symud, gan olygu na all achosi niwed.

Yn y gorffennol mae defnyddwyr wedi bod yn cael blychau yn sy'n cynnwys nifer o nodwyddau a bin arbennig i'w storio.

Ond yn ôl Mark Tudor o Orion roedd nifer, yn enwedig pobl sy'n byw ar y stryd, yn taflu'r nodwyddau a'r biniau am eu bod yn rhy swmpus i'w cario.

Dywedodd: "Mae'r pecyn newydd yn rhoi popeth i'r defnyddiwr. Dyw e ddim ots os yw'r pecyn yn cael ei adael ar y stryd a bod rhywun yn camu arno - fydd y blwch ddim yn torri ac yn niweidio neb."

Caerdydd a'r Fro oedd y cyntaf i dreialu'r pecynnau. Maent bellach yn cael eu defnyddio ar draws Cymru - y wlad gyntaf yn y DU i'w defnyddio ar raddfa eang.

'Llinell denau iawn'

Er yn croesawu'r cynllun, dywedodd ymgynghorydd arbenigol elusen CAIS, Wynford Ellis Owen nad yw'n mynd at wraidd y broblem.

"Mae mesurau fel hyn yn bethau ymarferol y gellid eu gwneud i arbed yr addict rhag niweidio fo'i hunan ac amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol. Felly maen nhw i'w croesawu," meddai.

"Ond mae yna linell denau iawn rhaid osgoi ei chroesi. Mae'n hawdd iawn delio gyda symptomau'r cyflwr yma ond yn y bôn be sy'n rhaid ei wneud ydy delio â'r cyflwr ei hun."