Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Fylde
- Cyhoeddwyd
Fe fethodd Wrecsam â chyrraedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Fylde ar ddiwrnod olaf eu tymor.
Fe wnaeth Scott Quigley daro'r traws i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf, tra mai Paul Rutherford gafodd gyfle gorau'r ail hanner i'r Dreigiau.
Roedd gêm gyfartal yn ddigon i Fylde sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, ac fe lwyddon nhw i wneud hynny er i Luke Burke weld cerdyn coch yn y munudau olaf.
Dim ond un o'u naw gêm olaf yn y tymor enillodd y clwb o ogledd Cymru ers i'r rheolwr Dean Keates adael am Walsall.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn gorffen y tymor yn y 10fed safle.