Galw am sefydlu maes awyr rhanbarthol yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Abertawe yn credu y gallai cael maes awyr rhanbarthol yn y de orllewin fod o fudd i bobl fusnes yr ardal.
Mae gan y cyngor gysylltiadau agos â dinas Wuhan yn China ac mewn cyfarfod diweddar yn y wlad dywed Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, bod cysylltiadau drwy'r awyr wedi cael eu trafod.
Y ddau leoliad allai gael eu hystyried yw Abertawe a Phen-bre - mae gan y ddau le feysydd awyr ond does yna ddim hediadau rheolaidd o'r naill na'r llall.
Mae un arbenigwr blaenllaw yn amau a yw Abertawe yn addas i fod yn faes awyr rhanbarthol.
'Gwobr gysur'
Dywedodd Rob Stewart: "Maes Awyr Caerdydd yw ein maes awyr cenedlaethol ond rydyn ni angen meysydd awyr rhanbarthol hefyd.
"Mae Abertawe a Phen-bre yn cynnig eu hunain fel dau le addas. Rydyn am fod o gymorth i fobl busnes yn yr ardal drwy eu cludo i Lundain a gogledd Lloegr."
Ychwanegodd: "O ystyried ein cysylltiadau â China a'r cysylltiadau sydd gan Faes Awyr Caerdydd â'r Dwyrain Canol [Qatar Airways], dwi'n credu y byddai'n syniad da buddsoddi mewn maes awyr rhanbarthol.
"Roedd cysylltiadau awyr yn un o'r pethau a gafodd eu trafod yn ystod ymweliad diweddar â China."
Ychwanegodd Mr Stewart y gallai'r syniad fod yn wobr gysur wedi i Lywodraeth y DU newid eu meddwl ar drydaneiddio y rheilffordd i Abertawe.
'Caerdydd yn rhy agos'
Ond mae Stuart Cole, sy'n athro trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, yn credu y byddai cysylltiadau Caerdydd gyda Qatar yn ei gwneud hi'n anodd i Abertawe i ddatblygu fel maes awyr rhanbarthol.
Dywedodd: "Y gwir amdani yw mai maes awyr rhanbarthol yw Maes Awyr Caerdydd ac y mae ganddo berthynas dda gyda'r gwasanaeth newydd i Qatar ac y mae hynny yn galluogi cysylltiadau â'r Dwyrain Pell.
"Byddai'n rhaid [i Abertawe] gael llain hwy a gwella'r adnoddau - efallai yn y tymor hir ei fod yn bosibilrwydd.
"Mae'n syniad hyfryd ond mae Caerdydd yn rhy agos a does yna ddim digon o bobl yng ngorllewin Cymru i gael maes awyr rhanbarthol."
Nid hwn fyddai'r tro cyntaf i Abertawe a Phen-bre gael eu defnyddio fel meysydd awyr rhanbarthol.
Roedd y ddau yn safleoedd ar gyfer Air Wales a gafodd ei lansio yn 2000 ond dim ond chwe blynedd oedd oes y cwmni, wrth iddynt wynebu "costau uchel" a "chystadleuaeth ffyrnig" gan gwmnïau awyrennau mwy.
Ddwy flynedd yn ôl dywedodd y gŵr busnes Martin Morgan wrth gylchgrawn teithio ei fod am lansio hediadau rhanbarthol o Abertawe.
Daw'r cynllun wrth i Faes Awyr Caerdydd wynebu peth trafferth i gynnal rhai gwasanaethau rhanbarthol - yn eu plith y gwasanaeth i Ynys Môn ac yn ddiweddar daeth y gwasanaeth i Lundain i ben gan nad oedd digon o deithwyr yn ei ddefnyddio.
Ond mae Rob Stewart yn credu y gallai maes awyr rhanbarthol fod yn llwyddiant gan ddweud fod cynlluniau tebyg yn Iwerddon a'r Alban wedi bod yn llwyddiannus.
"Os oes modd cytuno ar y buddsodiad a'r cynllun cywir mae 'na botensial ehangu meysydd awyr rhanbarthol ac fe fyddwn yn ystyried hyn fel rhan o'n cynllun strategaeth drafnidiaeth.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl am i'r ddinas gael maes awyr rhanbarthol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017