Côr Ysgol Gymraeg Llwyncelyn yn ffeinal Songs of Praise

  • Cyhoeddwyd
llwyncelynFfynhonnell y llun, Songs of Praise

Roedd yna gryn ddathlu ymhlith disgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn o'r Porth yn Y Rhondda nos Sul ar ôl cael gwybod eu bod yn rownd derfynol cystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn Songs of Praise.

Y canwr Aled Jones oedd yn cyflwyno'r rownd gyn-derfynol ac fe gafodd ei ffilmio yng nghanolfan Pontio ym Mangor.

Côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn oedd yr unig gôr o Gymru i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn y categori hwn ac fe ddywedodd un o'r disgyblion eu bod yn cystadlu "dros Gymru".

Roedd disgwyl i bob côr ganu cân o fawl a dewis y Cymry oedd canu "Fel yr Hydd" sy'n seiliedig ar Salm 42.

Fe ddewisont ganu y rhan fwyaf o'r emyn yn Gymraeg.

Wedi iddynt ganu fe ddywedodd y beirniaid eu bod wedi'u gwefreiddio â'r perfformiad cwbl bwerus.

Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn ystod yr wythnosau nesaf.