Hawl plentyn i berthynas agos â'i ddau riant
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi tanlinellu hawl pob plentyn i gynnal perthynas agos â'i ddau riant wedi i briodas neu berthynas chwalu, pan fo hynny'n ddiogel ac yn briodol er lles y plentyn ei hun.
Dywed y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies bod "rhai rhieni [trwy] ymddwyn mewn ffordd sy'n golygu bod eu plentyn yn ymddieithrio oddi wrth y rhiant arall... yn gallu cael cryn effaith niweidiol ar les emosiynol y plentyn".
Bydd yn mynd o flaen Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad ddydd Mawrth i ymateb i alwadau'n galw am gamau penodol i leihau effaith dieithrio plentyn oddi wrth riant ar blant a'u teuluoedd.
Mae'n pwysleisio y dylai "lles y plentyn fod yn ganolog yn ein meddyliau bob amser".
Mae'r ymddygiad dan sylw yn arwain at sefyllfa lle mae un rhiant yn dylanwadu ar blentyn i wrthwynebu byw neu dreulio amser gyda'r rhiant arall - ac mae hynny'n gallu cael effaith niweidiol ar y plentyn.
"Nid syndrom neu gategori o ymddygiad yw dieithrio plentyn oddi wrth riant yn ein barn ni, ond set o ymddygiadau sy'n achosi i blentyn â'i riant ymbellhau oddi wrth ei gilydd," meddai Mr Irranca-Davies.
"Y mater pwysicaf i ni yw bod ein rhaglenni cymorth rhianta a'r fframweithiau rheoleiddiol a chyfreithiol sy'n bodoli'n barod yn mynd i'r afael yn briodol â'r ymddygiadau hyn, pan fyddant yn codi."
Dywed y llywodraeth eu bod eisoes yn ceisio helpu teuluoedd i fagu eu plant mewn ffordd gadarnhaol trwy raglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, a bydd y gefnogaeth yna'r parhau.
Mae arian wedi ei roi at wella sgiliau swyddogion sy'n darparu cefnogaeth i deuluoedd, fel eu bod yn cadw mewn golwg o'r cychwyn yr angen i wella'r berthynas rhwng rhieni pan fo angen ymyrryd.