Canrif o naddu cerrig beddi

  • Cyhoeddwyd
bleddyn

Mae wythnos yma'n arwyddocaol i gwmni I B Williams a'i Fab yn Llanbrynmair, gan ei fod yn dathlu 100 mlynedd o greu cerrig beddi.

Rhys Bleddyn sy'n rhedeg y cwmni bellach yn dilyn olion traed ei dad, Hedd Bleddyn, a'i daid, I B Williams.

Siaradodd Hedd gyda Cymru Fyw am hanes y cwmni a'r grefft o greu cerrig beddi.

Dechreuwyd y cwmni gan T R Jones o Bennal, pregethwr a ddaeth i Lanbrynmair. Sefydlodd fusnes beddfeini yn wreiddiol ar iard yr orsaf, draws y ffordd i'r lle ydan ni rŵan yn 1918.

Cafodd fy nhad, Idris Baldwin Williams, ei eni yn 1900 a'r unig agoriad i fechgyn yr ardal ar y pryd oedd mynd i weithio i'r chwarel yn Bryn Eglwys.

Aeth fy nhad i'r chwarel yn ifanc, ond mae'n debyg bod ficer lleol Abergynolwyn wedi trio dysgu'r cynganeddion i griw o hogiau. Enillodd fy nhad ei gadair gyntaf yn 1921 ac yna roedd yn gweithio fel gohebydd y glannau i bapur Dolgellau, Y Dydd.

O weithio ar y graig, barddoni, a sgwennu'r golofn roedd amser yn brin, a rhywbryd ar ddiwedd y 1920au cafodd swydd arall yn y chwarel gyda'r 'cwt weindio' - yr adeilad a oedd yn gyfrifol am gael y llechi ar drên Tal y Llyn fel mae'n cael ei 'nabod heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Hedd Bleddyn gyda'i fab Rhys, sydd bellach yn rhedeg y cwmni

Roedd gan fy nhad ddawn arlunio erioed, ac un diwrnod dechreuodd gerfio un o'r cerrig ar wal y 'cwt weindio'- rhyw ben ceffyl, ac mewn 'chydig o amser roedd wal y cwt gyda cherfluniau drosto. Mae'n debyg y daeth Haydn Jones, perchennog y chwarel heibio a dweud bod fy nhad yn gwastraffu ei dalent a chafodd byncyr i greu beddfeini a'u gwerthu nhw.

Un o'r rhai oedd yn prynu gan fy nhad oedd T R Jones, Llanbrynmair. Dywedodd T R yn 1938 ei fod am ymddeol ac am werthu ei fusnes cerrig beddi.

Roedd eisiau £150, ond dim ond £100 oedd fy rhieni'n gallu eu fforddio. Cytunodd ar £100 i ddechrau gan roi amser i fy rhieni dalu'r gweddill. Daeth Dad yn berchennog ym Mawrth 1938 a ges i fy ngeni yn Nhachwedd 1938 - felly ro'n i yno o'r cychwyn!

Disgrifiad o’r llun,

Enghreifftiau o'r cerrig sydd yng ngweithdy I B Williams a'i Fab

Hogi'r grefft

Roedd yna gwmnïau cerrig beddau ym mhobman yn y canolbarth yr adeg yna, yn cerfio gyda chun a mwrthwl yn draddodiadol. Fe adawais i'r ysgol yn 1954 yn 15 oed a phenderfynu ymuno â fy nhad. Rhwng 1957 a 1959 es i Goleg Celf Amwythig a chael fy nysgu gan athro arbennig aeth 'mlaen i fod yn gerflunydd eithaf enwog, Harry Everington.

Dos i'n bartner busnes i fy nhad yn 1960 a ro'n i'n gweld potensial yn y canolbarth, achos roedd nifer fawr o'r beddfeini yn cael eu gwneud gan hen bobl, ac o'n i'n ifanc. Roedd fy nhad yn credu mai'r grefft oedd yn bwysig, ond yn y pen draw pwrpas busnes yw i greu bywoliaeth. Hobi ydy'r grefft i bob pwrpas.

Dydi'r grefft heb newid dros y blynyddoedd, ond mae'r ffordd o gerfio a gwneud y gwaith wedi newid.

Mae'n rhaid cael cymhwyster proffesiynol erbyn hyn sy'n beth da i gysoni'r safon yn y diwydiant, ac mae'r cwsmeriaid yn awyddus i gael gwasanaeth personol a dewis eang o gynlluniau.

Yr hyn oedd yn arferol ers talwm oedd carreg lechen pum troedfedd o uchder, ac roedd y cerfiadau yn y cyfnod i gyd yn eithaf tebyg, doedd dim lot o amrywiaeth. Maen nhw'n dueddol o fod mwy personol dyddiau 'ma - beth oedd bywoliaeth y person ayyb.

Disgrifiad o’r llun,

Alun Foulkes wrth ei waith yn llythrennu

Ehangu'r busnes

Ar ddiwedd y 60au a dechrau 70au fe brynais i saith o fusnesi bychain, gan wneud y cerrig beddau ar eu rhan nhw a'u gosod nhw. Pan dyfodd y cwmni roedd y galw'n mynd gymaint yn fwy, ac roedd hi'n anodd dal fyny efo'r hyn oedd ei angen.

Yn 1979 cafwyd trawsnewid sylweddol o wneud i ffwrdd â phopeth ar y safle gwreiddiol a chodi adeilad diwydiannol 4,000m2 ar gyfer peiriannau arbennig i ddal fyny efo'r galw.

Roedd fy nhad yn llythrennu efallai un yr wythnos, lle gall Rhys wneud pump neu chwech erbyn hyn - mae'n bosib gwneud pedwar neu bump y dydd os bydd angen.

Mae'r mwyafrif o gerrig yn dod o bendraw'r byd erbyn hyn hefyd, oherwydd fod llechen Gymreig mor ddrud ac mae'n hollbwysig i ni bod y cerrig o'r safon gorau i'n cwsmeriaid.

Yn ystod y cyfnod pan gychwynnais i efo'n nhad roedd 90% o gerrig beddi yn rhai llechi. Ond erbyn heddiw 10% sydd yn rhai llechi, gyda 90% ohonyn nhw'n wenithfaen. Newid yn y busnes chwareli llechi ac efallai'r gost sydd tu ôl hynny gan fod llechen yn gallu bod yn ddrud.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Bleddyn, sy'n rhedeg y cwmni yn Llanbrynmair ac yn byw yn lleol

Cofebau cofiadwy

Mae 'na blac wnes i ar y swyddfa bost yn Passchendaele, Gwlad Belg, a dwi wedi gwneud darnau i enwogion Cymru, ar y beddau neu wrth eu cartrefi - Syr Ifan, H T Edwards, Waldo...

Roedd crwydriaid yn galw yn ein gweithdy ni yn y 1940au a 1950au, ac un o'r rhain oedd Gwyddel o'r enw Paddy Duffy. Pan oedd o yno un diwrnod 'nath fy nhad ofyn i mi nôl darn o lechen i wneud carreg fedd.

Es i nôl carreg, ac roedd rhywbeth o'i le arni felly wnaethon ni benderfynu peidio ei defnyddio. Dywedodd Duffy "put that to one side for my grave", ac felly pan fu farw Duffy yn lleol dyna'r garreg y defnyddion ni yn rhad ac am ddim gydag englyn gan fy nhad arno:

Heb gartref, heb le di-blwy - y buost

Yn byw ar gynorthwy,

Rhodiaist yn gymeradwy

Gerddwr mawr ceir ddaear mwy.

Mae'n anrhydedd gwneud beddfeini, rhywbeth sydd mor barhaol, ac mae'n rhaid cael o'n iawn ar y cynnig cyntaf. Hefyd, be' sy'n rhoi boddhad i rywun ydy medru cyfleu cymeriad y person drwy gerfiad neu gynllun.

Un enghraifft oedd cofeb i'r Prifardd Gwenallt. Dywedodd Nel Gwenallt, ei weddw, mai'r cyfan oedd hi eisiau oedd 'Gwenallt' a dyddiad. Ond mi roedd hi eisiau 'Gwenallt' wedi ei gerfio mewn ffordd anarferol, fel bod siâp y llythrennau a'u hedrychiad nhw yn cyfleu cymeriad unigryw Gwenallt.

Dwi'n cofio gwneud sawl cynllun a Nel Gwenallt yn dweud "na 'di hwnna ddim yn iawn..." cyn cyrraedd y cynllun cywir.

Y Dyfodol

Roedd gan fy nhad 35 o gadeiriau o eisteddfodau ac roedd o'n frwd i mi ddysgu'r cynganeddion, ond doedd gennai ddim diddordeb gwneud pan oeddwn i'n iau. Ond wedi i mi ymddeol o'n i'n benderfynol i fynd ati i ddysgu'n iawn, ac mae gen i 16 o gadeiriau bellach.

Rhys sy'n rhedeg y busnes rŵan, ac mae ganddo ddau fab a merch. Wrth gwrs byswn i'n licio i'r cwmni aros yn y teulu, ond gallwch chi ddim rheoli bywyd eich plant neu wyrion, mae'n rhaid iddyn nhw gymryd eu cwys eu hun. Doedd gan Rhys ddim diddordeb i ddechrau - os rhywbeth roedd gan Nia'r ferch fwy o ddiddordeb pan oedden nhw'n blant.

Roedd Rhys eisiau bod yn actor ac fe gafodd 10 mlynedd lwyddiannus iawn yn y maes. Ond pan o'n i angen help rhywbryd, a Rhys digwydd bod adref, mi ddoth i fy helpu. Mewn rhyw bythefnos dywedodd ei fod eisiau ymuno â'r busnes - a dyna'r peth gorau glywes i erioed!