Awyren gyntaf o Qatar yn glanio yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Boeing 787 Dreamliner oedd yr awyren ar gyfer y daith gyntaf rhwng Doha a Chaerdydd
Mae'r awyren deithwyr gyntaf i deithio'n uniongyrchol rhwng Cymru a Qatar wedi glanio ym Maes Awyr Caerdydd ddydd Mawrth.
Gadawodd yr awyren Qatar Airways faes awyr Doha yn oriau man y bore.
Oherwydd trafferthion gyda chyflenwi awyrennau, bydd cwmni Qatar Airways yn rhedeg gwasanaeth cyfyngedig tan fis Mehefin.
Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns a phrif weithredwr Qatar Airways, Akbar Al Baker i gyd yn teithio ar yr awyren gyntaf.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Mr Jones: "Mae'r gwasanaeth uniongyrchol newydd rhwng Caerdydd a Doha yn hwb anferthol i Gymru.
"Bydd yn agor cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd.
"Drwy ddarparu cysylltiad uniongyrchol i faes awyr Hamad International - y canolbwynt sy'n tyfu gyflymaf yn y byd - bydd hefyd yn dod â Chymru yn agosach at farchnadoedd mwyaf blaenllaw y byd fel India, China, Singapore ac Awstralasia."
Cafodd y llwybr teithio newydd ei gyhoeddi yn Ebrill 2017, ac mae disgwyl iddi gymryd tua saith awr.
Mae'n ychwanegol i wasanaethau Qatar i feysydd awyr Heathrow, Manceinion, Birmingham a Chaeredin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017