Anrhydeddau'r Orsedd: Y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Anrhydeddau'r OrseddFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd ar faes Eisteddfod Môn 2017

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddau yn 2018.

Mae dros 40 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Dyma'r rhai o'r canolbarth fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd fis Awst:

GWISG WERDD

Ifan Gruffydd

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ifan Gruffydd yn derbyn y wisg werdd

Fel un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae Ifan Gruffydd, Tregaron yn adnabyddus drwy Gymru gyfan am ei waith ar gyfresi fel Ma' Ifan 'Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â'i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol, gyda un arall ar y gweill. Yn ogystal â'i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.

Cynfael Lake

Mae Cynfael Lake, Aberaeron yn un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i'r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn arbenigwr ar faes llenyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac ym myd y faled a'r anterliwt. Bu'n gweithredu'n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.

Ned Thomas

Mae cyfraniad Ned Thomas, Aberystwyth i fywyd cenedlaethol a rhyngwladol Cymru yn unigryw, hirhoedlog a sylweddol. Fe'i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a'r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu'n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig. Bu'n gweithredu am flynyddoedd ar fyrddau cenedlaethol Cymreig, bob amser yn barod i wthio'r ffiniau a rhannu'i arbenigedd.

GWISG LAS

Elin Jones AC

Disgrifiad o’r llun,

Llywydd y Cynulliad, Elin Jones

Mae Elin Jones, Aberaeron yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau'r Cynulliad. Bu'n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae'r fraint o gynrychioli'r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi dros 25 mlynedd o wasanaeth i'w bro, ac mae ei chyfraniad ar draws Ceredigion a Chymru gyfan yn un nodedig.