Anrhydeddau'r Orsedd: Y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddau yn 2018.
Mae dros 40 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Dyma'r rhai o'r gorllewin fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd fis Awst:
GWISG WERDD
Manon Eames
Mae Manon Eames, Abertawe, a ddaw'n wreiddiol o Fangor, yn adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio'n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu'r ffilm Eldra, a enillodd nifer o wobrau yng Nghymru a thramor, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae'n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi'i nofel gyntaf, Porth y Byddar.
GWISG LAS
John Davies
Mae John Davies, Crymych wedi rhoi oes o wasanaeth i bob math o sefydliadau cenedlaethol yn ogystal â'r rheini yn ei filltir sgwâr. Yn ffermwr wrth ei alwedigaeth, mae'n gyn-Arweinydd Cyngor Sir Benfro, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Sioe Frenhinol Cymru ac yn aelod o Awdurdod S4C. Bu'n gefn mawr i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, gan hyfforddi ac ysbrydoli'r aelodau mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, ac yn dysgu aelodau lleol. Dyma ddyn sydd wedi cyfrannu cymaint mewn cynifer o feysydd amrywiol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny.
Elaine Edwards
Eleni, bydd Elaine Edwards, Caerfyrddin yn ymddeol o'i gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC ar ôl deng mlynedd o waith blaengar ac arloesol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel athrawes, cafodd flas ar waith undebol fel ysgrifennydd sir i UCAC, cyn ei hethol yn Llywydd Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae'n trafod materion addysg a chyflogaeth ar y lefelau uchaf gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llu o gyrff eraill. Mae lles athrawon, o ran iechyd corfforol a meddyliol, wedi bod yn agos iawn at ei chalon, ac wedi cael blaenoriaeth ganddi yn ystod y blynyddoedd y bu'n arwain yr Undeb.
Huw Edwards (i'w urddo yn 2019)
Yn wreiddiol o Langennech, mae Huw Edwards, Llundain yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae'n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy'n ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae'n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i'r BBC ac yn rheolaidd yn llywio'r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.
Margarette Hughes
Mae Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf wedi gwneud cyfraniad diflino at hybu iaith a diwylliant Cymru yn ei hardal a thu hwnt ers dros 40 mlynedd. Bu'n gweithio'n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i'r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda'r nos, ac mae'n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yn yr ardal hyd heddiw. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o'i bywyd am flynyddoedd, a bu'n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.
Eric Jones
Mae Eric Jones, Pencader wedi rhoi oes o waith yn lleol ac yn genedlaethol. Bu'n stiward ac arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd yn ddi-dor er 1984, gan weithio'n dawel yn y cefndir gyda gwên ar ei wyneb bob amser. Mae ei gyfraniad i'w filltir sgwâr hefyd yn helaeth: mae'n ddiacon yn y capel ac yn aelod brwd o bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Llanfihangel-ar-Arth, ac mae bob amser yn fwy na pharod i helpu pawb a phob achos da.
Rhys Owen Thomas
Er iddo weithio ym mhob rhan o'r byd, mae Dr Rhys Thomas, New Inn, Llandeilo wedi dychwelyd i fro ei febyd, lle mae'n gwneud cyfraniad enfawr yn ei gymuned. Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu'n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu'r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda'i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018