Anrhydeddau'r Orsedd: Y de
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddau yn 2018.
Mae dros 40 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Dyma'r rhai o'r de fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd fis Awst:
GWISG WERDD
Geraint Jarman
Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi cael dylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae'n rhan allweddol o'r sîn Gymraeg ers dros 40 mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â 18 o recordiau hir rhwng 1976 a 2016. Yn ddi-os, mae'n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi'u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau'i gerddoriaeth drwy'r blynyddoedd.
Terry Dyddgen-Jones
Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae Terry Dyddgen-Jones, Caerdydd yn fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama blaenaf teledu rhwydwaith, ac wedi cynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Mae wedi cyfarwyddo dros 200 o benodau o'r opera sebon Coronation Street, ac mae hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â'i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm.
Dylan Foster Evans
Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw Dylan Foster Evans, Caerdydd, ac mae ei gyfraniad at yr iaith ym myd addysg yn helaeth, yn lleol a chenedlaethol. Yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, chwaraeodd rôl flaenllaw yn nifer o ddatblygiadau'r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg. Mae'n arbenigwr ar hanes yr iaith, ei llenyddiaeth a'i diwylliant yng Nghaerdydd, ac fe gydnabyddir ei rôl amlwg wrth ffurfio hunaniaeth gymysg ac amlhiliol y brifddinas.
Gwyn Griffiths
Anrhydeddir Gwyn Griffiths, Pontypridd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad unigryw fel hanesydd, newyddiadurwr ac fel un o'r dolenni pwysicaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llydaw. Roedd hefyd yn adnabyddus fel awdur, golygydd, cyd-olygydd neu gyfieithydd o leiaf 25 o gyfrolau. Un o'i nodweddion amlwg oedd ei barodrwydd i gynorthwyo myrdd o unigolion a mudiadau, a hynny'n gwbl wirfoddol ar hyd y blynyddoedd. Bu farw Gwyn Griffiths ddiwedd Ebrill eleni.
Don Llewellyn
Bu Don Llewellyn, Pentyrch, Caerdydd yn gweithio i gwmni HTV am flynyddoedd, gan ennill mwy nag un BAFTA am ei waith. Ond, fe'i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i'w gymuned. Mae'n lladmerydd pwysig dros y Gymraeg yn lleol, ac yn arbenigwr ar dafodiaith Y Wenhwyseg ac ar hanes ei ardal. Fe'i gwahoddir yn gyson i siarad gyda chymdeithasau lu am ei wybodaeth drylwyr. Bu hefyd yn gapten a llywydd y clwb rygbi lleol ym Mhentyrch, ac yn arwain yr ymgyrch i godi neuadd bentref, sydd bellach yn adnodd gwerthfawr yn lleol.
Dafydd Parri
Yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn, mae Dafydd Parri, Caerdydd yn derbyn yr anrhydedd am ei waith fel cynhyrchydd teledu ynghyd â'i waith gwirfoddol ym maes cerddoriaeth a bandiau pres am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn gwirfoddoli'n gyson gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod eleni. Mae'n rhan o dîm sydd wedi sefydlu band pres newydd yn y brifddinas - Band Pres Taf - sy'n gobeithio cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni.
GWISG LAS
John Hardy
Yn wreiddiol o Fangor, mae John Hardy, Caerdydd yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru. Bu'n darlledu am bron i 40 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'n gwmni i fore-godwyr y genedl ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Mae'n adnabyddus iawn am ei waith yn y byd chwaraeon, gan sylwebu ar dros 200 o gemau rhyngwladol ar Radio Cymru, ond mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o feysydd eraill gan gynnwys pob math o adloniant. Mae ei gyfraniad i fyd darlledu yng Nghymru yn sylweddol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny eleni.
Paul Hopkins
Mae Paul Hopkins, Llanilltud Fawr ar frig ei alwedigaeth fel bargyfreithiwr. Fel Arweinydd Cylchdaith Cymru, sy'n swydd etholedig a di-dâl, mae ei gyfrifoldebau a'i gyfraniad i fyd y gyfraith yng Nghymru yn enfawr. Mae'n cynrychioli'r proffesiwn mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Prif Ustus, yr Arglwydd Ganghellor, Cwnsleriaid Cyffredinol Cymru a Lloegr a Gwasanaeth yr Erlyniaeth Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli bargyfreithwyr Cymru ar Gyngor y Bar.
Anne Innes
Llwyddodd Anne Innes, Caerdydd i godi dros £100,000 tuag at Ymchwil y Galon, ac fe'i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaeth gwirfoddol cwbl nodedig dros achosion da. Yn dilyn salwch ei gŵr yn 1982, pan dderbyniodd galon newydd yn Ysbyty Harefield, penderfynodd fynd ati o ddifri i godi arian a chefnogi achosion da. Ei nodweddion yw argyhoeddiad, brwdfrydedd a'r penderfyniad i ddal ati, a thrwy hyn mae achosion da yng Nghymru a thu hwnt wedi elwa'n sylweddol iawn o'i chymorth a'i chefnogaeth dros y blynyddoedd.
Gwyneth Briwnant Jones
Mae cyfraniad Gwyneth Briwnant Jones, Caerdydd i'w weld mewn dau faes gwahanol - y byd addysg drwy'i gyrfa broffesiynol, a'r byd iechyd drwy'i gwaith gyda Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a'r Fro, ynghyd â llu o gyrff iechyd eraill. Bu'n ymwneud gyda datblygu safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ailwampio'r gwasanaethau i famau a babanod ac ailwampio'r gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â nifer o wasanaethau a phynciau eraill. Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman, mae wedi gwasanaethu'i chymuned a Chymru yn wirfoddol a phroffesiynol am flynyddoedd lawer.
Alaw Le Bon
Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae Alaw Le Bon, Y Barri yn gweithio fel athrawes gynradd mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd, gan gymryd pob cyfle i rannu'i diddordeb yn y 'Pethe' gyda'r disgyblion ifanc. Bu'n gweithio fel arweinydd Cylchoedd Chwarae'r Haf dros Fenter Caerdydd, ac mae hefyd yn groesawydd cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â Chaerdydd, gan ymgyrchu'n frwdfrydig a dygn am fisoedd lawer yng ngorllewin y ddinas.
Helen Middleton
Bu Helen Middleton, Y Fenni yn aelod blaenllaw o'r tîm a sicrhaodd Eisteddfod lwyddiannus yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016. Yn wir, mae'n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi cyfrannu mwy i ardal Y Fenni o ran Cymreictod ar hyd y blynyddoedd. Yn enedigol o Aberangell, mae Helen yn rhan allweddol o'r gymuned Gymraeg yn ei hardal. Gan weithio'n dawel a chadarn, mae'n rhoi'n hael o'i hegni a'i hamser i gefnogi a hybu gweithgareddau Cymraeg y fro.
Eleri Rees
Yn wreiddiol o Landre, Ceredigion, mae Eleri Rees, Caerdydd erbyn hyn yn Uwch Farnwr Cylchdaith ac yn Farnwr Preswyl Llys y Goron, Caerdydd. Bu'n Farnwr Cylchdaith er 2002, a hi hefyd yw'r Barnwr Cyswllt dros yr Iaith Gymraeg, gan gadeirio'r gweithgor a sefydlodd y drefn sy'n adlewyrchu'n ymarferol yr egwyddor o gydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg yn unol â Deddf Iaith 1993. Mae'n Gofiadur Caerdydd er 2012, a hi yw'r ferch gyntaf i'w phenodi i'r swydd ddylanwadol hon.
Jamie Huw Roberts
Mae Jamie Huw Roberts, Caerdydd yn un o sêr mwyaf y byd rygbi yng Nghymru ers degawd a mwy. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru ac mae wedi chwarae ar ddwy daith gyda'r Llewod. Mae'n arddel ei Gymreictod yn llawn ble bynnag y bo, a gwnaeth gyfraniad helaeth at godi proffil yr iaith ymysg y to ifanc yn y byd rygbi. Yn un o fechgyn y brifddinas, braf yw cael ei anrhydeddu yma yn ardal ei febyd.
Vaughan Roderick
Mae Vaughan Roderick, Caerdydd yn un o leisiau ac wynebau amlycaf y cyfryngau yng Nghymru yn sgîl ei waith fel Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru. Gyda diddordeb amlwg mewn gwleidyddiaeth a gwleidydda, mae wedi treulio'i yrfa'n dilyn y byd democratiaeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Mae'n cyflwyno rhaglenni rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales, ac mae hefyd yn un o hoelion wyth rhaglenni canlyniadau etholiadau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Andrew White
Mae Andrew White, Llanharan yn Gyfarwyddwr elusen Stonewall Cymru er bron i ddegawd, gan arwain y gwaith i gael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yma yng Nghymru. Wedi dysgu Cymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd, bu'n gweithio am gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bennaeth y Tîm Iechyd a Sector Gwirfoddol. Mae'n arweinydd naturiol, a'i waith lobïo wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi diwygio Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru i fod yn fwy cynhwysol o gyfeiriadedd rhywiol.
Rosemary Williams
Anrhydeddir Rosemary Williams, Crucywel am ei chyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yn ardal Y Fenni, Crucywel ac ardal Pen y Cymoedd. Yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Brynmawr, Blaenau Gwent am flynyddoedd, bu'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr iaith a hyrwyddo buddiannau addysg Gymraeg i genedlaethau o drigolion lleol. Mae'n un o hoelion wyth y gymuned Gymraeg, a'i chyfraniad i Eisteddfod y Fenni a'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, fel rhan o'r tîm bychan ac ymroddgar a greodd waddol i'r Gymraeg a'n diwylliant yn yr ardal, yn un helaeth.
Carole Willis
Mae Carole Willis, Y Groesfaen, Pontyclun yn rhan hollbwysig o fywyd Cymraeg ei hardal. Ar ôl dysgu Cymraeg a graddio yn yr iaith, treuliodd ddegawdau'n gweithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r iaith yn lleol gydag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau - yn eu plith, Côr Godre'r Garth, Cyngor Cymuned Pontyclun ac fel Cadeirydd cyfredol Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Mae hi hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r Urdd, y Mudiad Meithrin a'r capel lleol dros y blynyddoedd.
Jeremy Randles
Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu'r Eisteddfod i'r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu'r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi'r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i'w chynnal yn lleol, bu Jeremy'n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o'r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod. Bu'n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos. Erbyn hyn, mae'n gweithio'n ddiwyd i sicrhau gwaddol teilwng i'r Eisteddfod yn Sir Fynwy. Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-Gymraeg, mae wedi dysgu'r iaith yn rhugl ac mae ef a'i deulu'n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018