Penodi cyn chwaraewr Cymru Sam Ricketts i reoli Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Spencer Harris (chwith) gyda Sam RickettsFfynhonnell y llun, CPD Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Un o gyfarwyddwyr Wrecsam Spencer Harris (chwith)gyda'r rheolwr newydd Sam Ricketts

Cyn amddiffynnwr Cymru Ricketts yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ôl arwyddo cytundeb tair blynedd.

Mae'n olynu Dean Keates, wnaeth adael i reoli Walsall ganol Mawrth, ac mae'n ymuno â'r Dreigiau o Wolverhampton, lle roedd ganddo rôl datblygu timau ieuenctid.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Wrecsam, Spencer Harris eu bod wedi penodi "ymgeisydd rhagorol i symud y clwb yn ei flaen."

Ychwanegodd fod "Sam yn ddyn â record ardderchog yn y byd pêl-droed ac rydym yn credu bod ganddo'r ymwybyddiaeth, yr egni a'r penderfyniad i ddod â llwyddiant i'r clwb."

Yn 36 oed, fe enillodd Ricketts 52 o gapiau rhyngwladol rhwng 2005 a 2014,

Fe chwaraeodd i Abertawe, Hull City, Bolton Wanderers a Coventry City cyn ymddeol yn 2016.

Andy Davies a Carl Darlington oedd rheolwr dros dro Wrecsam ers ymadawiad Keates.

Fe orffennodd Wrecsam yn 10fed yn y Gynghrair Genedlaethol - pedwar pwynt yn brin o gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle - ar ôl sicrhau saith pwynt yn unig allan o 27 posib wedi i Keates adael.

Ychwanegodd Harris ei fod yn siŵr y bydd y rheolwr newydd yn cael "y gefnogaeth wych arferol gan ein cefnogwyr ardderchog ac rydym yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd gwirioneddol at y tymor newydd."