Dyn, 37, yn marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd CaerleonFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y ddamwain ar Ffordd Caerleon ar 25 Ebrill

Mae dyn 37 oed a gafodd ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd bellach wedi marw.

Roedd Vladimir Cech yn teithio mewn car a darodd ddau gerbyd arall ar Ffordd Caerllion.

Cafodd Mr Cech ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad am 02:30 ar 25 Ebrill, ond mae bellach wedi marw o'i anafiadau.

Mae dyn 25 oed wedi ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus a hynny tra'i fod wedi'i wahardd a heb yswiriant.

Mae'r dyn hefyd yn wynebu cyhuddiad o beidio ag aros yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd.

Yn ôl Heddlu Gwent cafodd dynes 20 mlwydd oed o Gasnewydd hefyd ei harestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ond mae hi bellach wedi ei rhyddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.