Dau'n rhedeg o wrthdrawiad difrifol yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddau berson redeg i ffwrdd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng tri char yng Nghasnewydd yn oriau mân fore Mercher.
Mae un dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau all beryglu ei fywyd yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Golf gwyn, Skoda Fabia gwyn a Ford Focus du oedd wedi'i barcio ar Heol Caerllion am 02:30.
Teithiwr yn y Skoda sydd wedi'i anafu, ac mae gyrrwr y car hwnnw, dyn 21 oed, wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru heb drwydded nac yswiriant.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn oedd yn gyrru'r Volkswagen a'r ddynes oedd yn teithio ynddo wedi rhedeg i ffwrdd yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae'r ffordd yn parhau ynghau o gyffordd 25 yr M4 hyd at Ystâd Old Barn ac mae'r heddlu'n cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal os yn bosib.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i'r digwyddiad neu unrhyw un welodd y ddau yn rhedeg oddi yno i gysylltu â'r llu.