Unwaith eto John?
- Cyhoeddwyd
Gohebydd rhaglen Heddiw yn cael trafferth wrth ffilmio eitem yn Llansannan yn y 60au
Roedd John Bevan yn enw cyfarwydd iawn i rai o wylwyr cynnar teledu Cymraeg cyn oes S4C.
Ond 'does dim amheuaeth ei fod e wedi cael ychydig o drafferth gyda'i linellau wrth ffilmio eitem ar ffigurau adnabyddus, diwylliannol Llansannan a Hiraethog yn y 60au.
Yn anffodus iddo fe, fel mae'r fideo uwchben yn dangos, mae'r dystiolaeth am y diwrnod hwnnw dal ar gael heddiw i ni fwynhau!
Fel un o ohebwyr rhaglen Heddiw ar BBC Cymru, fe gafodd fynd i amryw o leoliadau o gwmpas Cymru a thu hwnt.
Nôl neu 'mlaen?
O'r archif: Clociau Aberdâr yn mynd nôl neu 'mlaen?
Cafodd ei anfon i Aberdâr un diwrnod i ffilmio eitem ond, yn anffodus, doedd hi ddim yn bosib gwneud yr hyn â gynlluniwyd.
Yn hytrach na gwastraffu amser (ag arian) gofynnodd cynhyrchydd y rhaglen iddo fynd i holi pobl am y clociau'n mynd yn ôl neu ymlaen awr.
Ble aeth e wedyn?
Roedd John Bevan yn wyneb a llais cyfarwydd ar ein sgriniau yn y 60au a'r 70au, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa, ar ôl cyfnod fel uwch ddarlithydd y Gymraeg yng Ngholeg y Bari, aeth yn bennaeth Materion Cyhoeddus Amgueddfa Sain Ffagan, cyn ymddeol i Aberteifi, lle mae'n dal yn byw hyd heddiw.


O.N.
Diolch i Dave ac Alexandra Owen am gysylltu i'n hysbysu taw tad Dave, a thad yng nghyfraith Alexandra (sydd yn briod â brawd Dave) yw'r bachgen ifanc sydd yn cau'r clapperboard wrth ochr y llyn yn y fideo.
Roedd Tomi Owen yn ddyn sain ar y pryd, ond aeth ymlaen i fod yn ŵr camera i'r BBC am ddegawdau.
Ef oedd un o'r bobl camera cyntaf yn Aberfan a ffilmiodd eitemau gyda rhai o fawrion y byd megis yr Arlywydd Jimmy Carter a Fidel Castro!
Mae Tomi bellach yn byw yn Abergwaun... jest i lawr y ffordd o John Bevan yn Aberteifi.

Tomi (ar y dde) jest wedi iddo gau'r 'clapperboard' ar glasur arall gan John