Noel James: Seren BGT yn trafod comedi a iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Nos Sadwrn, 5 Mai gafodd miliynau o bobl y cyfle i chwerthin a mwynhau'r digrifwr Noel James ar raglen Britain's Got Talent ar ITV.
Fe enillodd le yn rownd nesaf y rhaglen dalent ar ôl plesio'r beirniaid gyda'i gymysgedd unigryw o gomedi a cherddoriaeth.
Mae'n wyneb cyfarwydd i lawer o bobl yn barod - mae cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt wedi bod yn mwynhau ei hiwmor bachog ers blynyddoedd.
Ond mae Noel wedi ei effeithio gan broblemau iechyd meddwl ar gyfnodau - rhywbeth sy'n gallu effeithio ar bawb, hyd yn oed comedïwyr.
Mewn fideo a recordiwyd yn arbennig ar gyfer BBC Cymru Fyw yn gynharach eleni, mae Noel yn sôn yn onest ac agored am ei gyflwr, ac yn ceisio esbonio sut mae'n dod i delerau gyda'i afiechyd.
"Dwi wedi bod yn isel, dwi wedi bod yn paranoid. Dwi wedi bod yn hypochondriac eithafol. Ers fy arddegau, dwi wedi cael cyfnodau lle dwi wedi teimlo'n drist am ryw reswm.
"Fi'n treulio tair awr y dydd o flaen cyfrifiadur. Mae'r lifestyle yn gallu arwain at amser sbâr i ti wneud dim byd ond meddwl..."
Gwyliwch y fideo fan hyn:
Efallai o ddiddordeb...
meddwl.org, dolen allanol (gwefan allanol ar iechyd meddwl)
Gwylio fideo o Noel James ar Britain's Got Talent, dolen allanol [YouTube]