Paul Jordan yn euog o lofruddio'i wraig ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r Felinheli yng Ngwynedd wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wraig ym mis Gorffennaf y llynedd.
Cafodd Betty Jordan, 53, ei thrywanu i farwolaeth gan ei gŵr Paul Jordan, 54, yn ei chartref ym Maesgeirchen, Bangor.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Mr a Mrs Jordan wedi gwahanu a bod Mr Jordan wedi gyrru i'r cartref priodasol am ei fod yn credu bod ei wraig yn cael perthynas â rhywun arall.
Roedd Mr Jordan wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar ôl cyfaddef ei fod wedi estyn cyllell o'r gegin a thrywanu ei wraig mewn ystafell wely.
Salwch meddwl difrifol
Yn ystod yr achos dywedodd yr amddiffyniad bod Mr Jordan yn dioddef o salwch meddwl difrifol, ac nad oedd yn ei iawn bwyll.
Ond yn ôl yr erlyniad roedd wedi teithio i Fangor o'r Felinheli gyda'r bwriad o ladd ei wraig.
Clywodd y llys fod Mr Jordan yn gweithio i BT, yn uchel ei barch ac yn gyn-lywodraethwr ysgol.
Dywedodd seiciatrydd wrth y llys fod ganddo broblemau iechyd meddwl gan gynnwys paranoia.
Ond clywodd y llys nad oedd tystiolaeth bod Mrs Jordan, oedd yn ofalwr, mewn perthynas â rhywun arall.
Bydd Mr Jordan yn cael ei ddedfrydu ar 21 Mai, ac fe rybuddiodd y barnwr Rhys Rowlands ei fod yn wynebu carchar am oes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018