Dyn yn cyfaddef lladd ei wraig ond yn gwadu llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a drywanodd ei wraig i farwolaeth ar ôl i'w perthynas dorri i lawr wedi gwadu llofruddiaeth ond wedi cyfaddef i ddynladdiad ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Caernarfon.
Fe laddodd Paul Jordan, 54, o'r Felinheli, Betty Jordan, 53, ym mis Gorffennaf 2017 ond mae'n gwadu llofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Ar ran yr erlyniad fe ddywedodd Peter Griffiths QC fod Mr Jordan wedi gyrru i'r cartref priodasol ym Mangor am ei fod yn credu bod ei wraig yn cael perthynas gyda rhywun arall.
Roedd Mr Jordan, meddai Mr Griffiths, wedi estyn cyllell o'r gegin, cyn mynd i ystafell wely i drywanu Mrs Jordan.
Dywedodd: "Roedd yn bwriadu lladd ei wraig ac yna, yn ôl pob tebyg, i ladd ei hun."
Ond yn ôl bargyfreithiwr yr amddiffyn Paul Reid QC, mae meddyg o'r farn fod Mr Jordan yn dioddef o salwch meddwl difrifol a bod ei gofnodion meddygol yn cyfeirio at achosion o "obsesiwn a pharanoia".
Mae'r achos o flaen y Barnwr Rhys Rowlands yn parhau.