Ffordd yng Nghwm Afan i ailagor yn dilyn tirlithriad

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad

Bydd ffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ynghau ers i 120 tunnell o goed a mwd syrthio arni yn gynharach yn yr wythnos yn ailagor brynhawn Gwener.

Cafodd Ffordd Cymer yng Nglyncorrwg, Cwm Afan ei chau fore Mercher yn dilyn y tirlithriad.

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai'r gwaith ar y ffordd parhau dros y penwythnos, ond maen nhw bellach yn disgwyl ei hailagor ddydd Gwener.

Fe welodd Glyncorrwg 35mm o law nos Fawrth, gan achosi'r tirlithriad.

Mae'r pentref rhyw naw milltir o Ystalyfera, ardal lle mae tirlithriadau wedi bod yn y gorffennol sydd wedi golygu bod trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi.