Arbenigwyr: 'Angen ffyrdd amgen o drin prolaps'
- Cyhoeddwyd
Mae angen defnyddio dulliau amgen o drin cleifion sy'n dioddef o brolaps neu anymataliaeth (incontinence), yn ôl grŵp sydd wedi cael sefydlu gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae mewnblannu rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) yn un o'r triniaethau sy'n cael eu cynnig, ond mae arbenigwyr yn dweud bod angen ystyried ffyrdd eraill o drin wrth i nifer o bryderon gael eu mynegi am y mewnblaniadau.
Cael llawdriniaeth ddylai fod yr opsiwn olaf, medd arbenigwyr.
Mae rhai mewnblaniadau rhwyll wedi achosi cymhlethdodau poenus i gleifion.
Yn ôl adroddiad y grŵp mae angen hybu mesurau a fyddai'n atal problemau fel prolaps.
Nodir hefyd bod angen i gleifion gael mwy o wybodaeth a bod angen gwell proses o gydsynio.
Dwyn achos yn erbyn GIG
Mae'r mewnblaniadau, sy'n cynnwys gwahanol fathau o dâp plastig, yn cael eu defnyddio i drin anymataliaeth ac i gynnal organau megis y bledren, y coluddyn a'r fagina sydd yn gallu mynd o'u lle wedi rhoi genedigaeth i blentyn.
Mewn rhai achosion mae'r rhwyll wedi achosi problemau cymhleth i gleifion ac mae nifer o ferched yn y DU wedi dwyn achos yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae'r mewnblaniadau'n parhau i gael eu rhoi i gleifion ar gost y GIG ond mae adolygiadau diweddar yn Lloegr a'r Alban yn dweud na ddylent gael eu defnyddio, heb ystyriaeth, i drin prolaps organau.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cynnal archwiliad er mwyn canfod maint y problemau.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gethin wneud datganiad ar yr adroddiad ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2017