Pryder bod Penweddig am golli staff oherwydd cost PFI

  • Cyhoeddwyd
Ysgol PenweddigFfynhonnell y llun, Google

Mae cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai'r ysgol "golli aelod o staff y flwyddyn" oherwydd y gost o dalu arian yn ôl i gwmni preifat.

Yn ôl Mark Rees mae'r costau sydd ynghlwm â chynllun PFI yn niweidiol i gyllideb Penweddig ac i addysg uwchradd Gymraeg yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Ceredigion yn dweud fod pob ysgol yn wynebu heriau ariannol o ganlyniad i gynnydd cyson yn eu costau.

'Dim dewis arall ar y pryd'

Cafodd adeilad newydd Ysgol Penweddig ei godi yn Llanbadarn Fawr yn 1999 ac fe gafodd y dull o gyllido'r adeilad sêl bendith Cyngor Sir Ceredigion.

Penweddig oedd yr ysgol uwchradd gyntaf yng Nghymru i gael ei hadeiladu a'i chynnal gan gwmni preifat.

Mae cynllun PFI yn bartneriaeth rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus.

Yn achos Ysgol Penweddig mae'r cyngor lleol yn talu'r arian 'nôl i gwmni preifat am gyfnod o 30 mlynedd.

Ar y pryd dywedodd Cyngor Ceredigion nad oedd dewis arall ond mae beirniaid PFI yn dweud nad yw'n cynnig gwerth am arian.

Disgrifiad,

Mae'r Cynghorydd Alun Lloyd Jones yn credu y gallai'r arian gael ei wario ar ddiogelu ysgolion bach

Ers agor yr ysgol mae Cyngor Ceredigion wedi ad-dalu tua £38m - taliadau am y gost o adeiladu'r ysgol yn y lle cyntaf ond hefyd costau cynnal a chadw, rheoli'r safle a chostau'r gegin.

Mae 12 mlynedd ar ôl ar y cytundeb ac mae'r cyngor yn amcangyfrif y bydd rhaid talu bron i £22m arall cyn diwedd y cytundeb.

Mewn cyfarfod diweddar o un o bwyllgorau Cyngor Ceredigion dywedodd Mr Rees bod y pwysau mae'r ysgol yn ei wynebu wrth dalu'n ôl yn cynyddu.

Dywedodd ei fod yn gyfystyr ag un athro y flwyddyn ar hyn ac mae'n amcangyfrif y bydd yn costio dau athro y flwyddyn erbyn 2021.

Yn ôl Mr Rees "mae'n sefyllfa frawychus a hollol anghynaladwy".

'Cynyddu bob blwyddyn'

Mae Cyngor Ceredigion yn dweud eu bod wedi edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o dalu er mwyn dod â'r cytundeb i ben yn gynnar - ond wedi dod i'r casgliad y byddai hynny'n gostus ac y dylid ond ystyried y dewis hwnnw fel yr un olaf.

Fe gadarnhaodd pennaeth yr ysgol, Gwenallt Llwyd Ifan, fydd yn ymddeol yn yr haf, fod cost y PFI yn £623,000 a bod y diffyg o £60,000 yng nghyllideb yr ysgol.

"Mae'r gost yn cynyddu bob blwyddyn - y flwyddyn nesaf fe fydd yn £67,000," meddai.

"Mae'r cyfan yn cael effaith ar ein staffio ond mae'r effaith fwyaf ar y disgyblion."

Ymateb y cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Cafwyd trafodaeth gynhwysfawr iawn ar gytundeb PFI Penweddig ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y cyngor.

"Cafodd pennaeth yr ysgol a chadeirydd llywodraethwyr yr ysgol gyfle i gyfarch y pwyllgor a mynegwyd pryder ganddynt fod y cytundeb PFI yn anfanteisio'r ysgol o'i chymharu ag ysgolion eraill.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i edrych yn fanwl a oes sail deilwng i hynny er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei thrin yn deg am oes y cytundeb sy'n weddill.

"Tra'n gwneud hynny, mae'n bwysig cydnabod bod pob ysgol yn wynebu heriau ariannol o ganlyniad i gynnydd cyson yn eu costau lle nad yw eu cyllidebau wedi codi i gyfateb â'r cynnydd hwnnw."