Annog pobl hŷn sydd â phroblemau yfed i chwilio am help

  • Cyhoeddwyd
Dyn oedrannus gyda pheint o gwrwFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r elusen Barod Cymru wedi galw ar weithwyr mewn cartrefi gofal i dderbyn hyfforddiant ar sut i adnabod arwyddion cynnar o alcoholiaeth.

Mae adroddiad ar gamddefnyddio sylweddau wedi dangos fod 20% o'r rhai gafodd eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn 2015-16 dros 50 oed.

Ychwanegodd yr adroddiad fod cyfanswm o 3,515 achos - cynnydd o 30% dros bum mlynedd.

Roedd 80% o'r achosion hynny yn ymwneud ag alcohol.

'Angen gweithredu'n gynnar'

Mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu 35% ar gyfer unigolion dros 65 oed yng Nghymru.

Dywedodd Caroline Phipps, prif weithredwr Barod Cymru, bod angen ymyrryd yn gynt.

"Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n hyfforddi gweithwyr iechyd sy'n ymwneud â phobl hŷn i allu adnabod ac ymateb i gamddefnydd sylweddau," meddai.

"Os allwn ni ymateb ac ymyrryd yn gynt yna gall hynny arwain at sicrhau nad yw pobl wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen detox neu fod ganddynt broblemau iechyd difrifol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caroline Phipps bod angen ymyrryd yn gynt

'Herio'r stigma'

Mae dynes sydd wedi dioddef o alcoholiaeth yn y gorffennol wedi annog pobl hŷn sydd â phroblemau goryfed i chwilio am gymorth eu hunain.

Roedd Angie, 61 oed o Rhondda Cynon Taf, yn ddibynnol ar alcohol am 10 mlynedd ar ôl gorfod rhoi'r gorau i weithio.

Blwyddyn ar ôl iddi hi chwilio am gymorth ei hun, mae hi bellach yn cefnogi eraill sydd â phroblemau goryfed.

Mae hi'n annog pobl dros 40 oed i "herio'r stigma" a chwilio am gymorth er mwyn osgoi problemau iechyd difrifol.

'Ofn cyfaddef'

"Roeddwn i'n ddibynnol ar alcohol am rai blynyddoedd yn dilyn amser caled yn fy mywyd," meddai Angie.

"Roedd y stigma o orfod cyfaddef fod gen i broblem yfed yn fy nychryn yn ofnadwy."

Un diwrnod fe aeth Angie i swyddfa Drink Wise Age Well ym Mhontypridd ac mae hi'n dal i dderbyn cefnogaeth ganddynt hyd heddiw.

"Drwy siarad gydag eraill a gwrando ar rai sydd â phroblemau tebyg, gallwn i drio fy ngorau i gynnig cymorth tebyg i'r hynny a dderbyniais i," meddai.

Yn ôl Angie, mae hi bellach wedi dod o hyd i'r "golau ar ddiwedd y twnnel".