Rhybudd am ddringo ar doeau yng nghanol Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Stryd y Plas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mwyafrif o adeiladau Stryd y Plas yng Nghaernarfon yn rhai tri llawr

Mae pryder y bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol yng Nghaernarfon wedi i bobl ifanc ddechrau dringo ar doeau yng nghanol y dref am hwyl.

Mae'r heddlu yn ceisio rhoi stop arnyn nhw ac yn rhybuddio am y peryglon.

Mae difrod wedi cael ei achosi i doeau hefyd, gan achosi rhwystredigaeth i fusnesau.

Fe wnaeth yr heddlu roi gorchymyn gwasgaru mewn grym ar gyfer canol y dref dros y penwythnos, sy'n golygu eu bod yn gallu gorfodi unrhyw un sy'n cael eu hamau o droseddu i adael yr ardal am hyd at 48 awr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Sarjant Non Edwards mai pwysleisio'r peryglon yw eu blaenoriaeth

Dywedodd y Sarjant Non Edwards: "Mae gennym ni drend ar hyn o bryd bod plant a phobl ifanc yn mynd ar ben toeau busnesau yng Nghaernarfon gyda'r nos.

"Maen nhw'n dringo ar y toeau yn meddwl ei fod yn hwyl ond dydyn nhw ddim yn llawn sylweddoli beth ydy'r peryglon.

"'Da ni hefyd wedi cael troseddau o ddifrodi'r toeau. 'Da ni yn gweithredu yn eu herbyn nhw ynglŷn â'r difrod, ond y neges ydy pwysleisio'r peryglon.

"Dwi ddim eisiau bod yn curo drws eu rhieni nhw gyda'r nos yn dweud bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i un o'u plant nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Thomas bod y criwiau'n "neidio o un to i'r llall"

Dywedodd perchennog siop Panorama ar Stryd y Plas, Geraint Thomas, ei fod wedi dal criwiau o fechgyn ar do'r adeilad sawl gwaith.

"Dwi wedi trio deud wrthyn nhw - tasan nhw'n disgyn o ben to'r lle 'ma, dwi'm yn meddwl y byddai 'na lawer o obaith iddyn nhw," meddai.

"Disgyn i goncrit fysan nhw, a bysan nhw'n brifo'n ddrwg iawn tasa rhywbeth yn digwydd.

"Rhyw gêm maen nhw'n ei chwarae, lle maen nhw'n trio neidio o un to i'r llall a mynd o grib i grib.

"Dwi'm yn meddwl eu bod nhw'n mynd ati i 'neud difrod bwriadol, ond mae llechi'n dod yn rhydd ac yn achosi difrod."