'Toriadau trafnidiaeth yn effeithio ar bobl anabl'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ag anableddau yn dioddef oherwydd toriadau i drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis na sydd wedi'u haddasu, medd Anabledd Cymru.
Mae cyfuniad o'r ddau beth yn golygu nad yw pobl anabl yn gallu mynd allan rhyw lawer, medd y corff sy'n hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pob person anabl.
Dywed ymgyrchwyr fod pobl anabl angen teithio ar amrywiaeth o drafnidiaeth gan gynnwys bysys a threnau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i wneud pob ffordd o deithio yn addas.
Mae un awdurdod - Pen-y-bont ar Ogwr - wedi dweud eu bod yn gostwng yr arian y maent yn ei roi i gwmnïau bysys £188,000 yn ystod y flwyddyn ariannol yma.
Dywedodd Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru: "Mae'r holl fater o gwtogi arian i wasanaethau bysys lleol a ffyrdd eraill o deithio yn cael effaith andwyol ar allu pobl anabl i arwain bywyd annibynnol.
"Dyw hi ddim yn bosib i bobl anabl deithio fel pobl eraill," dywedodd hi wrth rhaglen Sunday Politics Wales.
"Rhaid edrych ar ffyrdd o deithio yn eang er mwyn sicrhau bod gan bobl anabl fynediad i sawl ffordd o deithio - boed e'n dacsi, bws, trên neu awyren - rhaid sicrhau bod modd i bobl anabl gael teithio i'r fan a fynnant a bod y cysylltiadau ar gael."
'Trawma i rai pobl'
Dywed y Cynghorydd Richard Young, sy'n aelod o gabinet Cyngor Pen-y-bont, fod ei awdurdod wedi rhoi £188,000 yn llai o gymorth i gwmnïau bysys er mwyn cwrdd â gofynion y gyllideb.
Mae'r cyngor wedi cynnal ymgynghoriad ar y mater ac yn dweud eu bod wedi gwrando ar bryderon grwpiau ymgyrchu.
"Mae hyn yn drawma i rai pobl," ac ychwanegodd fod y cyngor yn edrych ar y posibilrwydd o ehangu trafnidiaeth gymunedol.
Dywedodd Simon Green, cadeirydd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont y bydd y newidiadau arfaethedig gan Gyngor Pen-y-bont yn effeithio ar nifer o bobl anabl sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae lleihau gwasanaeth bws y mae person anabl yn ddibynnol arno i fynd i'r dre, i fynd i'r gwaith, i weld ffrindiau neu i gymdeithasu yn niweidiol i iechyd meddwl y person hwnnw," meddai.
Mae Helen Fincham, 23 oed, o Ben-y-bont, yn gwella o feirws prin a ddioddefodd ddwy flynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn defnyddio cadair olwyn.
Dywedodd ei bod yn ddibynnol ar dacsis a cheir wedi'u llogi i fynd o gwmpas ond does dim digon ohonynt wedi'u haddasu'n bwrpasol.
Dywedodd: "Ar y foment mae'n rhaid rhoi diwrnod o rybudd i gwmni tacsis neu pan mae'n braf maent yn dweud na yn syth.
"Un dydd Sul mi wnes i ffonio chwe chwmni gwahanol a'r ymateb yn syth gan y mwyafrif ohonynt oedd na."
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae'n anghyfreithlon i gwmni llogi cerbydau preifat wrthod cludo person sydd ag anableddau - heblaw bod ganddynt dystysgrif eithrio meddygol gan awdurdod trwyddedu.
'Gwasanaeth o'r radd flaenaf'
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: "Llynedd fe gyflwynon ni ddeddfwriaeth i sicrhau bod defnyddwyr cadair olwyn sy'n llogi tacsi neu gerbyd preifat yn cael pob cymorth posib."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnal ymgynghoriad i newid trefn trwyddedu tacsis "er mwyn sicrhau fod holl deithwyr Cymru yn cael gwasanaeth o safon uchel mewn cerbydau diogel sy'n cael eu gyrru gan yrwyr sydd wedi'u hyfforddi.
"Ond ry'n yn ymwybodol o'r materion sy'n cael eu gwyntyllu gan Anabledd Cymru ac eraill ynglŷn ag argaeledd tacsis addas.
"Byddwn yn parhau i gydweithio â'r sector dacsi a phobl anabl er mwyn sicrhau bod teithwyr ar draws Cymru yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu ac yn disgwyl ei gael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2017