Mark Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y byd
- Cyhoeddwyd
Y Cymro Mark Williams yw pencampwr Snwcer y byd ar ôl trechu John Higgins o 18-16 ffrâm yn theatr y Crucible, Sheffield nos Sul.
Dyma'r trydydd tro i Williams ennill y bencampwriaeth, gyda'i fuddugoliaeth gyntaf yn dod 18 mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Williams i ennill saith ffrâm yn olynol i fod 14-7 ar y blaen.
Ond, brwydrodd Higgins yn ôl gan ennill wyth o'r naw ffrâm oedd i ddilyn i ddod a'r sgôr yn 15-15.
Er ymdrech Higgins i frwydro'n ôl, llwyddodd Williams i ennill gan sicrhau gwobr o £425,000 gan drechu Higgins oedd yn edrych am ei bumed bencampwriaeth o'i yrfa.
Yn ystod y Bencampwriaeth, reodd Williams wedi dweud y byddai'n mynd i gynhadledd newyddion yn noeth os fyddai'n ennill.
Wedi'r fuddugoliaeth, wrth gadw at ei air, cyfeiriodd at yr un cyfnod flwyddyn yn ôl pan gollodd yn y rowndiau rhagbrofol ac ystyried ymddeol.
"Mae'n anhygoel, blwyddyn yn ôl doeddwn ddim hyd yn oed yma, roeddwn yn gwylio'r cyfan mewn carafán.
"Roeddwn wir yn ystyried rhoi'r gorau iddi, ond dywedodd fy ngwraig na allai gysgu yn y tŷ 24 awr y dydd," meddai.