Cefnogwyr Southampton yn flin â gwesty cyn gêm Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gefnogwyr clwb pêl-droed Southampton, sydd yn wynebu Abertawe mewn gêm dyngedfennol yn Stadiwm Liberty nos Fawrth, wedi cyhuddo gwesty yn y ddinas o newid eu trefniadau funud olaf mewn ymgais i amharu ar eu tîm.
Fe gadarnhaodd y clwb eu bod nhw wedi cael gwybod ddydd Sul bod gwesty'r Marriott yn Abertawe wedi canslo eu holl ystafelloedd, a'u bod nhw bellach yn aros mewn gwesty ar gyrion Caerdydd.
Yn ôl y clwb, fe gawson nhw wybod ddydd Sul y byddai'n rhaid iddyn nhw newid eu gwesty ar fyr rybudd.
Dywedodd rheolwr Gwesty'r Marriott, Abertawe, eu bod nhw wedi cael sawl achos o "salwch anesboniadwy" yn y gwesty ddiwedd wythnos diwethaf.
Brwydr gwaelod y tabl
Mae'r gêm rhwng clybiau pêl-droed Abertawe a Southampton ar y Liberty nos Fawrth yn un dyngedfennol i'r Elyrch.
Dim ond y gêm hon yn erbyn Southampton ac un dydd Sul nesaf yn erbyn Stoke sydd gan yr Elyrch i sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer y tymor nesaf.
Ar hyn o bryd, mae gan Southampton ac Abertawe yr un nifer o bwyntiau, ond mae'r Seintiau un safle uwchben yr Elyrch, sydd yn y tri gwaelod, ar wahaniaeth goliau.
Dywedodd Michael Downie, Rheolwr Cyffredinol Marriott Abertawe: "Fe gawson ni wybod yn hwyr wythnos ddiwethaf fod nifer fach o bartneriaid a gwesteion wedi mynd yn sâl.
"Yn unol â'n canllawiau arferol, roedden ni'n hysbysu grwpiau mawr er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i lety yn rhywle arall, os dyna oedd eu dymuniad.
"Cafodd adran Iechyd Cyhoeddus y Cyngor eu hysbysu'r un pryd, ond hyd yma dyw achos y salwch ddim yn amlwg.
"Does dim mwy o adroddiadau o salwch yr wythnos hon ac felly mae'r gwesty'n parhau ar agor, ac ar waith."
Ond mae rhai o gefnogwyr Southampton wedi lleisio'u hanfodlonrwydd gyda'r newid mewn trefniadau ar wefannau cymdeithasol, ac ar wefannau adolygu gwestai.
Dywedodd un bod "ymddygiad y gwesty yn warthus" am eu bod nhw wedi canslo trefniadau oedd wedi eu gwneud amser maith yn ôl.
Dywedodd un arall bod y gwesty "wedi methu â chadw at drefniant a gafodd ei wneud o flaen llaw, am fod feirws yno".
"Rwy'n gwybod fod hyn yn 'nonsens' oherwydd mi wnaeth fy ffrind ffonio, ac fe gafodd wybod bod stafelloedd yn dal ar gael."
Brynhawn dydd Mawrth, fe chwiliodd Cymru Fyw am ystafell yn y gwesty ar wefan y cwmni ac ar wefan deithio allanol, a doedd dim ystafelloedd ar gael erbyn hynny.