Golffiwr wedi'i gwahardd am 'sylwadau ar y cyfryngau'
- Cyhoeddwyd
Mae golffiwr o Gaerdydd wedi'i gwahardd dros dro o glwb golff Cottrell Park ger Y Bont-faen oherwydd "rhai sylwadau" mae hi wedi'u gwneud ar y cyfryngau.
Yn wreiddiol, roedd Lowri Roberts wedi cwyno nad oedd ganddi'r hawl i chwarae ar yr un pryd â'r dynion ar foreau Sadwrn - penderfyniad mae hi'n dweud gafodd ei wyrdroi ddydd Gwener.
Roedd Ms Roberts wedi ceisio newid y rheolau am ei bod hi'n methu â chwarae yng nghystadleuaeth y merched ganol wythnos a hithau'n gweithio llawn amser.
Bellach mae Ms Roberts wedi derbyn e-bost gan y clwb yn dweud ei bod wedi'i gwahardd o'r clwb ble mae hi wedi bod yn aelod ers 2015, nes bydd 'na broses ddisgyblu yn dechrau.
Mae'r clwb wedi cadarnhau bod aelod yn wynebu camau disgyblu, gan ddweud bod gan "aelodau, gwesteion ac ymwelwyr o unrhyw ryw yr un hawliau mynediad" i gyfleusterau.
'Gwahardd eto'
Dywedodd Ms Roberts ar raglen Y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru: "'Nes i ymuno â'r clwb er mwyn cael gwneud gweithgaredd hefo fy ngŵr, ond fe ddaeth yn amlwg nad oedd merched yn cael chwarae ar yr un cwrs nac ar yr un adegau a'r dynion.
"Ces wybod y bydde'n rhaid i mi gael aelod gwrywaidd o'r clwb i godi'r mater gerbron pwyllgor - pwyllgor o ddynion yn unig. Ond mi gefais wybod bod modd codi'r mater gerbron cyfarfod blynyddol y clwb.
"Beth bynnag, mi ddaeth y cadeirydd o hyd i is-reol, yn deillio o 1998 oedd yn fy ngalluogi i gael chwarae pryd y mynnwn i.
"Mis Ionawr eleni mi ges i'r caniatâd, ond dros y Pasg cynhaliwyd cyfarfod arbennig ac mi ges fy ngwahardd eto," meddai.
Bryd hynny fe wnaeth y clwb gadarnhau fod merched wastad wedi cael yr hawl i chwarae ar fore Sadwrn, ond bod trefnwyr y gystadleuaeth wedi camddehongli'r rheolau.
Ychwanegodd Ms Roberts: "Mae'r wasg wedi dangos diddordeb. Dydd Gwener d'wetha ces wybod y byddwn yn cael fy ngwahardd, oni bai fy mod yn tynnu'r sylwadau a wnes i yn ôl.
"Dwi wedi gwrthod a neithiwr [dydd Mawrth] ces wybod fy mod wedi fy ngwahardd dros dro tra bod ymchwiliad ar y gweill.
"Yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall ma' gynno nhw bythefnos i benderfynu ac wedyn mae 'na broses apêl. Mae hyn mor rhwystredig... oll dwi isio neud ydy chwarae'r gêm dwi'n ei garu hefo fy ngŵr," meddai.
'Sylwadau cyhoeddus anonest honedig'
Mewn datganiad ddydd Mercher, cadarnhaodd Clwb Golff Cottrell Park bod aelod o'r clwb yn destun proses disgyblu oherwydd "sylwadau cyhoeddus anonest honedig".
Ychwanegodd y datganiad bod gan "aelodau, gwesteion ac ymwelwyr o unrhyw ryw yr un hawliau mynediad" i gyfleusterau'r clwb, ac nad oedd cyfarfod blynyddol o Gymdeithas Aelodau Cottrell Park ddechrau Mai wedi newid unrhyw reolau i atal merched rhag chwarae ar ddydd Sadwrn.
Dywedodd y datganiad hefyd bod cadeirydd ac ysgrifennydd y gymdeithas wedi ymddiswyddo ar neu o gwmpas 3 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Mai 2018