Yr actores Hedydd Dylan: O Aber i Emmerdale
- Cyhoeddwyd
Mae cymeriad newydd wedi cyrraedd pentref dychmygol Emmerdale yn Sir Efrog (neu ITV) yn ddiweddar.
Efallai bod rhai ohonoch wedi adnabod gwyneb cymeriad Misty Allbright gan fod yr actores sy'n ei phortreadu wedi ymddangos ar lwyfan yng Nghymru ac ambell ddrama ar S4C, fel Y Gwyll.
Felly pa mor bwysig yw bod yn Misty i'r actores Hedydd Dylan o Aberystwyth?
Fe fu hi'n sôn am ei rhan newydd wrth Shân Cothi ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, ddydd Gwener, 11 Mai.
"Mae Misty'n gariad i Rodney Blackstock sydd dipyn bach yn hŷn na hi. Mae'r ddau wedi cwrdd yn Ibiza lle roedden nhw'n fire breathing double act a wnaethon nhw gwympo mewn cariad," meddai Hedydd.
"Fi'n dychmygu fod hi'n dod o dde Cymru rhywle ac wedi treulio lot o amser yn trafaeli'r byd ac wedi bod yn byw yn India a llefydd fel'na a dysgu ioga falle... y math 'na o berson.
Munud olaf
"Fi wedi bod yn gweithio ar Emmerdale ers rhyw dri mis, a ges i ddim fy nghlyweliad tan ryw ddau ddiwrnod cyn i mi ddechrau ffilmio!
"O'n nhw wedi gadael e braidd yn funud olaf cyn chwilio am rywun i chwarae'r rhan, felly ges i ddim lot o rybudd cyn dechrau.
"Yn y clyweliad, wnes i gynnig perfformio gydag acen Saesneg ac acen Cymraeg, a dwi'n meddwl fod nhw wedi eithaf lico'r syniad o gael cymeriad Cymraeg achos dyna beth ddewison nhw.
"O ran fi fel actores, mae pawb yn Emmerdale wedi bod yn hyfryd, ond mae Misty ar y llaw arall wedi cael croeso ychydig yn wahanol yn y gyfres.
"Mae pawb ychydig bach yn amheus ohoni. Mae hi'n gymeriad eithaf bywiog a rhyfedd i'r pentref bach tawel.
"Mae'n rhaid i mi gyfaddef, cyn dechrau gweithio ar y rhaglen, o'n ni erioed wedi gwylio Emmerdale, er rwy'n siŵr ei fod wedi bod yn bach o fantais gan bod fi wedi gorfod cyfarwyddo gyda'r peth mor glou."
Ffatri actorion Aber
Gydag Aberystwyth yn gyfrifol am nifer fawr o actorion ifanc llwyddiannus ar hyn o bryd, beth mae Hedydd yn credu sy'n gyfrifol am hynny?
"Sai'n gwybod, rhywbeth yn y môr falle?" meddai.
"Mae Taron Egerton, Elen Rees, Gwyneth Keyworth a Jacob [Ifan] i gyd yn gwneud yn dda ar hyn o bryd... ac mae'n siŵr bod fi wedi anghofio rhywun.
"Roedd youth theatre project mlaen yn yr Arts Centre, rwy'n siŵr bod ni gyd wedi gwneud rhywbeth fan'na ar ryw adeg.
"Ond fi'n meddwl fod siarad Cymraeg o ryw fantais oherwydd y cefndir Eisteddfod, er o'n i'n uffernol fel plentyn a methu canolbwyntio ar unrhyw beth.
"O'n i'n cael canu mewn côr ambell waith os o'n i'n bihafio!"
"Pan o'n i'n fach o'n i'n hoffi paentio ac eisiau bod yn arlunwraig neu fynd mewn i'r byd ffasiwn.
"Ges i fy ysbrydoli i actio pan o'n i'n gwneud TGAU a dechrau darllen Shakespeare. Wnes i feddwl waw, mae'n rhaid i mi wneud mwy gyda hwn.
"O'n i ddim yn orhyderus ar lwyfan pan o'n i'n blentyn, daeth hynny'n hwyrach - roedd rhaid i mi weithio'n galed i fagu'r hyder i fod ar lwyfan."
RADA ar y radar
Ar ôl gadael ysgol, dewisodd fynd am goleg RADA yn Llundain am eu bod nhw'n arbenigo mewn theatr glasurol.
"Dyna beth o'n ni mo'yn gwneud ar y pryd, ac oedd e'n ffantastig, alla'i ddim cnocio fe i ddweud y gwir, ffantastig," meddai Hedydd.
"Fi wrth fy modd yn byw yn Llundain, er fi'n gweld eisiau Cymru a gweld eisiau'r môr yn Aberystwyth.
"Un peth sydd yn ffodus, fi'n edrych yn eithaf gwahanol mewn bywyd go iawn i'm cymeriad ar Emmerdale, felly fi'n cael fy ngadael yn llonydd ar y stryd achos bod neb yn nabod fi... mae'n lyfli."
Felly beth nesa' i Hedydd Dylan?
"Alla'i ddim sôn llawer am yr hyn fydd yn digwydd i Misty yn y gyfres, ond mae'n deg dweud fod ambell i beth diddorol am ddigwydd iddi hi," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl fod pennod hen do Brenda wedi mynd mas eto, ond mae hynna'n dipyn o hwyl... dyna'i gyd ddweda'i."
Efallai o ddiddordeb: