'Cipio pwerau' datganoledig yn digwydd medd Corbyn

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU yn storio pwerau yn Whitehall medd Jeremy Corbyn

Mae'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio "cipio pwerau" ynglŷn â deddfwriaeth Brexit allweddol, er bod gweinidogion Llafur Cymru wedi dod i gytundeb gyda gweinidogion Whitehall.

Ar ôl ffrae hir ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i bwerau datganoledig sy'n dychwelyd i Brydain wedi Brexit fe ddaeth y ddwy lywodraeth i gytundeb fis diwethaf.

Mae Llywodraeth SNP Yr Alban, gyda chefnogaeth y blaid Lafur yno, wedi parhau i wrthod y cynnig.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o roi ei hun mewn sefyllfa "hurt".

Ond yn ôl llefarydd ar gyfer yr ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford, mae'r cytundeb yn un "da iawn i'n pobl a'n economi" ac fe fydd yn "amddiffyn datganoli yng Nghymru."

'Annerbyniol'

Ddydd Mawrth mae disgwyl i Aelodau Cynulliad Cymru rhoi sêl bendith i Fesur Ymadael yr UE, mewn cyferbyniad gyda Senedd Yr Alban.

Dywedodd Mr Corbyn ddydd Gwener: "Rwy'n hapus iawn fod plaid Lafur Yr Alban yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y cynnig deddfwriaethol wythnos nesaf oherwydd mae'n amlwg bod yna ymgais i gipio pwerau yn digwydd gan Whitehall ynglŷn â gadael yr UE.

"Yr hyn maen nhw'n gwneud yw cymryd pwerau o Frwsel ddylai fynd i'r Alban, Cymru a rhanbarthau Lloegr ac yn eu storio yn Whitehall.

"Mae hynny'n annerbyniol i ni ac rydyn ni wedi datgan hynny'n glir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford yn dweud bod cyfaddawdu wedi bod ar y ddwy ochr ynglŷn â'r cytundeb

Y disgwyl yw y bydd Plaid Cymru yn gwrthod rhoi sêl bendith i'r mesur ddydd Mawrth - yr unig blaid yn y Cynulliad fydd yn gwneud hynny.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Corbyn dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, bod Llafur Cymru mewn "sefyllfa hurt o fod yr unig gangen o'r blaid sy'n cefnogi'r Mesur Ymadael, yn yr unig le lle mae Llafur yn llywodraethu ac yn medru atal y cipio pŵer, ond maent wedi penderfynu ei gefnogi".

"Ac i beth? Fydd Cymru ddim yn elwa o'r cytundeb yma," meddai.

Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Llafur Cymru nawr ail ystyried y mater.

Cytundeb 'da i'n pobl'

Dywedodd llefarydd ar gyfer yr ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford bod y cytundeb yn un "da iawn i'n pobl a'n economi".

Dywedodd hefyd bod yna newid wedi bod yn safbwynt Llywodraeth y DU i gytundeb oedd nawr yn un "teg sy'n gweithio i Gymru."

"Yng Nghymru, rydyn ni yn llywodraethu ac mae cyfrifoldebau ynghlwm a hynny.

"Mae'r cytundeb yn un sydd yn gyfrifol ac yn effeithiol yn y modd mae'n amddiffyn datganoli yng Nghymru."