Chwilio am aur yn afon Wen: Heddlu'n ymchwilio

  • Cyhoeddwyd
Yr afon Wen
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod pobl yn achosi difrod i fywyd gwyllt wrth chwilio am aur yn yr afon

Mae'r heddlu yn ymchwilio i weithgareddau anghyfreithlon ar afon Wen ger Dolgellau.

Fe gafodd y darnau aur cyntaf eu mwyngloddio o weithfeydd Gwynfynydd, ger Dolgellau, dros 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bryderus bod bobl sy'n chwilio am aur yn achosi difrod i natur.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw'n cadw llygad ar weithgareddau yn yr ardal.

Llygredd afon

Mae Emyr Lewis yn gyn uwch-arolygydd afonydd dros ogledd Cymru.

"Mae 'na gymaint o stwff wedi dod allan o'r hen chwareli aur dros y blynyddoedd i gyd. Erbyn hyn, mae hwnnw wedi gorwedd ar waelod yr afon.

"Os ydych chi'n mynd i chwarae o gwmpas efo'r suspended solids yma, rydych chi'n rhoi llygredd yn nŵr yr afon. Mae'r llygredd yma yn achosi problemau i bopeth sy'n byw yn yr afon."

Mae Afon Wen ger Dolgellau o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig.

Yno mae 'na rywogaethau o gennai, dyfrgwn ac eogiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Emyr Lewis mae yna broblem llygredd wedi bod yn yr afon yn y gorffennol

Roedd Emyr Lewis yn gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd am 40 mlynedd.

"Pan fues i'n gweithio ar Afon Wen, mewn un diwrnod, dwi'n cofio gweld saith dyn yn pwmpio graean o waelod yr afon," ychwanegodd.

"Pan oeddem ni yn profi y dŵr wedyn, roedd cymaint o lygredd bryd hynny, doedd dim un pysgodyn yn byw yn y dŵr.

"Does dim amheuaeth na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru am weld y broblem yn cyrraedd yr un graddau eto."

Eisiau 'gwarchod yr amgylchedd'

Doedd Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn awyddus i dynnu sylw at yr achos, am eu bod yn bryderus i bobl feddwl bod llawer o aur i'w gael yn yr afon.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y Ditectif Gwnstabl Eryl Lloyd, o Heddlu Gogledd Cymru:

"Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i gyfreithlondeb gweithgarwch chwilio am aur mewn ardal a reolir gan CNC yn yr Afon Wen, Hermon ger Dolgellau.

"Mae afonydd a bywyd gwyllt yn cael eu diogelu gan y gyfraith i'w gwarchod rhag gweithgareddau niweidiol.

"Ein nod bob amser yw gweithio gydag eraill i warchod yr amgylchedd. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol.

"Yn yr achos hwn, mae ein hymchwiliadau yn parhau. Os bydd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn gweld unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch ein llinell gymorth ar 03000 65 3000 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101."