Dim gwasanaeth meddyg teulu am ddeuddydd
- Cyhoeddwyd
Fydd 'na ddim meddygon teulu ar gael i lenwi shifftiau yn ysbyty'r Tywysog Phillip Llanelli gyda'r hwyr nos Sadwrn a dydd Sul.
Mae prinder meddygon teulu yn y Gorllewin i lenwi shifftiau'r penwythnos hwn yn y gwasanaeth "Tu Fas i Oriau Arferol".
Brynhawn Sadwrn, doedd y gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, chwaith.
Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ymddiheuro wrth aelodau o'r cyhoedd.
'Dewis doeth'
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr Joe Teape: "Fe hoffwn i ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu bryderon fydd yn wynebu pobl Sir Gâr y penwythnos hwn.
"Rydyn ni wedi gweld gwelliant yn y gwasanaeth 'Tu Fas i Oriau Arferol', ond rydyn ni'n dal i wynebu prinder meddygon teulu i ddarparu'r gwasanaeth hwn o dro i dro.
"Mae'n holl staff a meddygon teulu yn gweithio'n hynod galed er mwyn darparu gwasanaeth diogel i'n cleifion ac rydyn ni'n ddiolchgar am hyn.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofyn i bobl sydd angen cymorth i un ai gysylltu gyda'r gwasanaeth gwybodaeth ar-lein - NHS Direct - neu ffonio 111 a gofyn iddyn nhw eich arwain at y gwasanaeth mwyaf priodol, neu i ymweld â fferyllydd lleol am gyngor a chymorth.