Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2018
- Cyhoeddwyd
Daeth yr haul i dywynnu ar drydedd gŵyl fwyd tref Caernarfon ar 12 Mai 2018 gyda miloedd yn ymweld unwaith eto.
Dyma flas ar y diwrnod:

Haleliwia, diolch byth am yr haul! Roedd Band Pres Llareggub yn dod ag ysbryd parti i'r strydoedd

Maes Caernarfon dan ei sang

Chris 'Foodgasm' Roberts yn coginio asado cig oen i bobl y dre o fewn waliau Castell Caernarfon

Tisho jam arni? Mae 'na ddigon o ddewis

Hir yw pob ymaros tra mae'r nionod yn ffrio

Mae wal yr Anglesey ar lan y Fenai bob amser yn denu yn y tywydd braf ond roedd mwy fyth yno i fwynhau bwyd a cherddoriaeth y penwythnos hwn

Ydi hi am fwyta'r mochyn yna?

Cwrw Cymreig yn llifo

"Madarch-i fwyd da yma..."

Mae'n rheol - os ydych chi'n blentyn ac mewn gŵyl, rhaid ichi baentio eich wynebau!

Sesiwn werin gan Gwilym Bowen Rhys. Tybed fyddai Edward 1af wedi gallu dychmygu hyn yng nghysgod waliau ei gastell?

Mae'r holl fwyd da ma'n gwneud i bobl fod eisiau dawnsio!

Mae dawnswyr Caernarfon yn haeddu'r peint yna ar ôl perfformio

Mae'r ŵyl eleni wedi ehangu i gynnwys Doc Fictoria a'r promenâd yn y dref

Wneith pobl sylwi bod y cacennau yma wedi eu gwneud o gardbord?

Mae'r arogleuon da wedi denu'r creaduriaid yma o'r Fenai

Côrnarfon yn ychwanegu at liw y diwrnod