Cyhuddo swyddogion y fyddin o 'ddifaterwch'

  • Cyhoeddwyd
Michael MaguireFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cwest i'r casgliad fod Michael Maguire wedi ei ladd yn anghyfreithlon

Mae llys milwrol wedi clywed fod dau swyddog y fyddin ac un swyddog gwarantedig wedi dangos "difaterwch llwyr am ddiogelwch" milwyr wrth drefnu ymarfer lle cafodd dyn 21 oed ei saethu'n farw.

Mis Mai 2012 fe gafodd Michael Maguire, oedd yn 21 oed ac yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gatrawd Frenhinol Wyddelig, ei saethu mewn ardal "diogel" o safle'r fyddin yng Nghastellmartin yn Sir Benfro.

Daeth cwest i'w farwolaeth yn 2013 i'r casgliad ei fod wedi ei ladd yn anghyfreithlon.

Mae Capten Jonathan Price wedi ei gyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd am iddo fethu â threfnu a goruchwylio ymarfer diogel.

Mae'r Lefftenant Cyrnol Richard Bell a'r Swyddog Gwarantedig Stuart Pankhurst wedi eu cyhuddo o gyflawni dyletswydd yn esgeulus.

Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Traeth peryglus

Ar ddiwrnod cynta'r llys milwrol, clywodd y llys gan yr erlynydd Nigel Lickley QC fod milwyr ar un maes ymarfer yn tanio'n uniongyrchol at filwyr ar faes ymarfer arall tua cilometr i ffwrdd.

Cafodd Mr Maguire ei saethu yn ei dalcen a'i ladd.

Dywedodd Mr Lickley fod Price heb ymweld â'r maes ymarfer wrth baratoi cynllun ar gyfer yr ymarfer dan sylw, ei fod wedi gosod targedau yn rhy agos at ei gilydd a'i fod heb wahanu'r ddau ymarfer.

Ychwanegodd Mr Lickley: "Cymaint oedd ei ddifaterwch am ddiogelwch y dynion fel bod traeth 3km i fwrdd ac unrhyw un oedd arno mewn peryg o gael eu taro oherwydd pwer yr arfau oedd yn cael eu defnyddio, sef reiffl SA80 a pheiriant saethu GPMG.

"Mae'n ffodus iawn na chafwyd mwy o ddioddefwyr."

Dywedodd hefyd fod Bell, yr uwch swyddog cynllunio, heb adolygu'r cynllun diogelwch gan Price ac heb ei gefnogi na'i oruchwylio.

Cyhuddodd Pankhurst o "beidio mynegi pryder na rhybudd" er bod ganddo wybodaeth o'r ddau faes ymarfer dan sylw.

Mae'r achos yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am chwe wythnos gerbron panel o saith o uwch swyddogion milwrol.