Cytundeb i ddarlledu cyfres S4C yng Ngogledd America

  • Cyhoeddwyd
Catherine Ayers, Richard Elfyn a Matthew Gravelle yn Byw CelwyddFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Catherine Ayers, Richard Elfyn a Matthew Gravelle yn Byw Celwydd

Fe fydd cyfres ddrama wleidyddol sydd wedi ei gosod a'i ffilmio yn rhannol yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei darlledu i wylwyr teledu ar draws yr UDA a Chanada.

Mae'r darlledwr cyhoeddus Americanaidd, MHz Networks, sy'n arbenigo mewn dangos cyfresi a ffilmiau rhyngwladol, wedi prynu'r hawliau i ddarlledu dwy gyfres gyntaf Byw Celwydd.

Fe fydd yn cael ei dangos ar y sianel danysgrifiol MHz Choice yn y Gymraeg, gydag isdeitlau Saesneg.

Ymhlith sêr y ddrama, sy'n dilyn cymeriadau ffuglennol llywodraeth glymblaid enfys, mae Catherine Ayres, Matthew Gravelle a Richard Elfyn.

'Chwa o awyr iach'

Mae'r cynhyrchwyr, Tarian Cyf a'r cwmni dosbarthu Videoplugger yn trafod opsiynau ynghylch darlledu'r drydedd gyfres dros Fôr yr Iwerydd wedi iddi gael ei dangos yn gyntaf ar S4C ym mis Medi.

Mae Byw Celwydd yn dilyn y berthynas rhwng grŵp o bleidiau gwleidyddol ffuglennol yng Nghynulliad Cymru, eu hymgynghorwyr arbennig, a newyddiadurwyr gwleidyddol sy'n gweithio yn y Senedd.

Mae'r gyfres yn deillio o syniad gan y diweddar ddramodydd Meic Povey a chyfarwyddwr Tarian, Branwen Cennard, a ddywedodd ei bod yn "falch iawn fod cynhyrchiad hollol Gymraeg, wedi'i ysgrifennu a'i ffilmio mewn cyd-destun cwbl Gymreig, wedi dal dychymyg darlledwr ar draws yr Iwerydd".

Ychwanegodd y byddai Meic Povey "wedi bod mor falch o glywed y newyddion yma" a bod y gwerthiant "yn deyrnged iddo ac i'r cast a'r criw gwych".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Catherine Ayres sy'n chwarae rhan y newyddiadurwr Angharad Wynne yn Byw Celwydd, a Matthew Gravelle sy'n portreadu'r ymgynghorydd arbennig Harri James

Dywedodd Lance Schwults ar ran MHz Networks bod y gyfres yn un "gyflym a chlyfar... ac rwy'n hyderus y bydd ein gwylwyr ni yn ei charu".

"O ystyried sefyllfa wleidyddol America ar hyn o bryd, mi fydd themâu'r gyfres hon, sy'n cynnwys cecru, twyll a llygredd gwleidyddol, yn cynnig chwa o awyr iach yng nghanol cecru, twyll a llygredd ein gwleidyddiaeth ein hunain," meddai.

Mae'r penderfyniad yn "sgŵp aruthrol i Byw Celwydd ac i ddramâu gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg", yn ôl Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

Dywedodd Emanuele Galloni, prif weithredwr Videoplugger nad oedd yn syndod iddyn nhw bod Byw Celwydd wedi cael ymateb ffafriol gan ddarlledwyr byd-eang, gan ychwanegu bod hi'n "gyfnod arbennig i ddramâu Celtaidd".