Cymru'n 'safle adeiladu perffaith' ar gyfer Heathrow

  • Cyhoeddwyd
Canolfan HolistegFfynhonnell y llun, Reuters

Mae'r ysgrifennydd economi o'r farn fod Cymru'n safle perffaith i gynnal gwaith adeiladu fel rhan o ehangiad Maes Awyr Heathrow.

Roedd yn siarad wrth i swyddogion ymweld â'r gogledd ddydd Iau, wrth iddyn nhw ystyried canolfannau posib fydd yn rhan o waith ehangu'r maes awyr.

Roedd Ken Skates ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yno i groesawu'r cynrychiolwyr a cheisio dwyn perswâd arnyn nhw i ddewis lleoliadau yng Nghymru.

Mae sawl safle yng Nghymru wedi cyrraedd rhestr fer i fod yn un o bedair canolfan logisteg ar gyfer Heathrow, gan gynnwys Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Casnewydd, Glyn Ebwy a Phen-y-bont ar Ogwr.

Disgrifiad,

Byddai'n fuddiol iawn i Gymru ddenu un o safleoedd adeiladu Hearthrow medd Alun Cairns

Gwaith Tata yn Shotton yw un o'r lleoliadau dan ystyriaeth, a chafodd aelodau o dîm ehangu maes awyr Heathrow ymweld â'r safle yn ystod y dydd.

Mae Heathrow wedi ymrwymo i greu'r pedair canolfan logisteg er mwyn ehangu'r gadwyn gyflenwi a sicrhau bod y rhaglen adeiladu eang sy'n rhan o gynlluniau ehangu'r maes awyr yn gydnerth, cynaliadwy a chost-effeithiol.

Y pedair canolfan logisteg a gaiff eu dewis fydd lleoliadau gwaith adeiladu trydedd redfa Heathrow, a fydd yn digwydd oddi ar safle Heathrow.

Fe allai'r pedair canolfan greu nifer uchel iawn o swyddi, yn y gobaith o arwain at fanteision economaidd.