Bygwth streic mewn ysgol yng Ngwynedd wedi pryderon

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Dyffryn NantlleFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph

Mae tri o undebau athrawon wedi anfon llythyr at gadeirydd llywodraethwyr ysgol yng Ngwynedd yn bygwth streic os na fyddan nhw'n ymateb i gais am wybodaeth o fewn saith diwrnod.

Ddeufis yn ôl fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod yr undebau wedi mynegi pryder wrth lywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes am y berthynas rhwng rhai athrawon a'r uwch dîm rheoli.

Ond mewn datganiad mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd yn hyderus fod cynnydd da yn digwydd, a bod disgwyl camau cadarnhaol pellach yn unol â'r amserlen sydd wedi ei amlinellu â'r undebau.

Fe godwyd pryderon gan yr undebau fis Chwefror am "ddisgyblaeth" a lles yn yr ysgol uwchradd, gyda'r awyrgylch yno wedi ei ddisgrifio fel un "anghyfforddus".

Yn eu llythyr diweddaraf, ddaeth i sylw rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, mae'r undebau'n dweud bod yr oedi honedig i weithredu gan y llywodraethwyr yn gosod straen anferth ar staff, ac yn cael effaith ar eu lles a'u morâl.

Swyddog lles

Mae cynrychiolwyr undebau UCAC, NASUWT a NEU eisoes wedi ysgrifennu at y llywodraethwyr yn mynegi pryderon am uwch dîm rheoli'r ysgol ym mis Chwefror eleni.

Yn benodol, roedden nhw'n honni bod staff yn teimlo dan fygythiad wrth geisio mynd ati i drafod materion disgyblaeth a lles, bod unigolion yn cael eu targedu yn ddi-sail, a bod hynny wedi arwain at ddiffyg hyder ac ymddiriedaeth yn yr arweinyddiaeth.

Dywedodd yr undebau fod y sefyllfa mor ddifrifol fel eu bod yn ystyried gofyn i'r awdurdod lleol ymyrryd.

Ers hynny mae cyfarfodydd wedi'u cynnal ac mae unigolyn bellach wedi ei ddewis i ystyried pryderon y staff, gyda swyddog lles galwedigaethol hefyd wedi ymweld â'r ysgol.

Ond mae'r undebau'n dweud fod dal angen i benodiad yr unigolyn hwnnw gael ei gadarnhau, a bod angen sicrhau fod y swyddog lles galwedigaethol yn ailymweld.

Maen nhw hefyd wedi gofyn am weld adroddiad y swyddog gan ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â lles y staff.

Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion o Gyngor Gwynedd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r undebau

Os nad ydyn nhw'n cael ateb cadarnhaol o fewn saith diwrnod, meddai'r undebau, maen nhw'n disgwyl i'w haelodau ofyn iddyn nhw gynnal pleidlais ar weithredu'n ddiwydiannol.

Mae'r Post Cyntaf wedi cysylltu gyda'r undebau ac fe ddaeth undeb yr NASUWT yn ôl i gadarnhau eu bod wedi arwyddo'r llythyr ond wnaeth cynrychiolwyr y ddau undeb arall ddim cysylltu yn ôl.

Mewn datganiad ar ran yr ysgol, y llywodraethwyr a'r cyngor, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod swyddogion a chynrychiolwyr o gorff y llywodraethwyr wedi bod yn trafod â chynrychiolwyr undeb i ystyried materion yn ymwneud â rhai pryderon gan staff.

Ychwanegodd y cyngor eu bod yn hyderus fod cynnydd da yn digwydd, a bod disgwyl camau cadarnhaol pellach yn unol â'r amserlen sydd wedi ei amlinellu â'r undebau.

Ym mis Ebrill 2015 cafodd yr ysgol, sydd â thua 400 o ddisgyblion, ei rhoi dan fesurau arbennig gan y corff arolygu ysgolion, Estyn ond ers rhyw flwyddyn mae'r ysgol wedi ei thynnu o fesurau arbennig.