Bale mewn grŵp sydd eisiau cymryd rheolaeth dros Plymouth Argyle

- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr Cymru a Real Madrid, Gareth Bale, yn rhan o gonsortiwm o'r UDA sy'n ceisio cymryd rheolaeth o glwb Plymouth Argyle yn Lloegr.
Deallir bod trafodaethau'r clwb gyda'r cwmni ecwiti preifat yn rhai cychwynnol.
Dywedodd perchennog Plymouth Argyle, Simon Hallett, fis diwethaf bod cytundeb blaenorol i werthu cyfran yn y clwb wedi methu.
Byddai Bale yn dilyn esiampl ei gyn-gyd-chwaraewr Real Madrid, Luka Modric, sydd wedi dod yn rhan o'r grŵp a gafodd reolaeth dros Abertawe.
Cwympodd Argyle o'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl perfformiad gwael yn y tymor, ac felly yn Adran Un fydd y clwb yn chwarae y tymor nesaf.
Nid yw'n amlwg pa rôl, os o gwbl, fyddai gan Bale yn Argyle pe bai'r cynllun i gymryd yr awennau'n llwyddiannus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill