Teyrnged i ddwy chwaer fu farw yn Nant Gwynant, Eryri

- Cyhoeddwyd
Mae'r ddwy fenyw a fu farw yn Nant Gwynant, Gwynedd, yr wythnos diwethaf wedi eu henwi gan grwner gogledd Cymru.
Bu farw'r chwiorydd Hajra Zahid, 29, a Haleema Zahid, 25, ar 11 Mehefin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 21:31 ar y noson yn dilyn adroddiadau bod un ddynes wedi cael ei thynnu o un o'r pyllau ar Lwybr Watkin, a bod dynes arall yn dal yn y dŵr.
Er i'r ail ddynes gael ei thynnu o'r dŵr, bu farw'r ddwy yn y fan a'r lle.
Roedd Heddlu'r Gogledd, Tîm Achub Mynydd Llanberis, yr Ambiwlans Awyr a Gwylwyr y Glannau i gyd yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad.
Mae disgwyl i gwestau i farwolaethau'r ddwy gael eu hagor ddydd Mercher.
'Colled fawr ar eu hôl'
Roedd Hajra Zahid a Haleema Zahid yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caer.
Wrth roi teyrnged iddyn nhw, dywedodd is-ganghellor y brifysgol, Yr Athro Eunice Simmons: "Mae cymuned Prifysgol Caer yn galaru am golled drasig Haleema Zahid a Hajra Zahid ac mae ein meddyliau gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Fe wnaeth Haleema a Hajra ymuno ag Ysgol Fusnes Caer yn gynharach eleni ar y cwrs gradd Meistr Busnes Rhyngwladol.
"Roeddent wedi cyffwrdd â nifer o fywydau yn ystod eu cyfnod yng Nghaer - eu ffrindiau, eu cyfeillion ar y cwrs a'r staff oedd yn eu dysgu - a bydd colled fawr ar eu hôl."
Ychwanegodd bod y brifysgol yn cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru ac yn cefnogi'r staff a'r myfyrwyr.
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd yr heddlu bod "ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd".
"Rydym yn apelio am unrhyw un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 18:00 a 21:00 neithiwr i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru."
Dywedodd June Jones, y cynghorydd sir lleol, bod y digwyddiad "yn drychineb".
"Mae'n newyddion trist iawn yn amlwg i'r teuluoedd ac mae cydymdeimlad y cwm i gyd gyda'r teuluoedd," meddai.
Ychwanegodd bod yr ardal ble digwyddodd y marwolaethau "yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd".
'Mewn sioc'
Mae cydweithwyr un o'r menywod wedi rhoi teyrnged iddi.
Dywed Dr Bilal Saeed, rheolwr cwmni telegyfathrebu i gwmni PTCL ym Mhacistan, fod Haleema Zahid yn "eithriadol o dosturiol, yn gweithio'n galed ac yn unigolyn caredig".
Ychwanegodd cydweithiwr iddi, Sheharyar Shahnawaz: "Roeddwn wedi fy llorio gyda'r newyddion o'i marwolaeth a dwi dal mewn sioc."