Galw am wario'r £430m ar drydaneiddio i Abertawe ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Trên diesel-drydanol
Disgrifiad o’r llun,

Trenau diesel-drydanol sydd bellach ar y rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe

Dylai'r arian sy'n cael ei arbed trwy beidio trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe gael ei wario ar wella trafnidiaeth yng Nghymru, yn ôl grŵp o ASau.

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi arbed "o leiaf £430m" trwy roi'r gorau i'r cynlluniau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies bod oedi a "chynlluniau israddol" yn golygu bod anhapusrwydd yn parhau, er i drenau newydd gael eu cyflwyno ar y llwybr.

Dywedodd Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y DU eu bod wedi gwneud buddsoddiad arwyddocaol yn y rhwydwaith reilffordd.

Mae trenau newydd, sy'n rhedeg ar drydan o Lundain i Gaerdydd ac yna ar ddisel yn bellach i'r gorllewin, yn cael eu defnyddio ers i'r cynlluniau i drydaneiddio hyd at Abertawe gael eu canslo ym mis Gorffennaf y llynedd.

'Ddim yn syndod'

Gan dynnu sylw at ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae'r adroddiad yn dweud bod Cymru wedi derbyn dim ond 1.5% o'r holl wariant ar welliannau i'r rheilffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae achos amlwg i Gymru, sydd â thua 5% o boblogaeth y DU, dderbyn mwy o siâr o'r gwariant ar y rheilffyrdd," meddai'r adroddiad.

"Er bod ffigyrau gwahanol wedi'u crybwyll, does dim dwywaith bod y llywodraeth wedi arbed o leiaf £430m wrth beidio trydaneiddio'r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

"Yn ein barn ni, mae achos cryf dros ddefnyddio'r arian yma ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies na fyddai'n deg i wario'r arian ar "Crossrail 2 neu Bwerdy'r Gogledd"

Dywedodd Mr Davies, AS Ceidwadol Mynwy, bod "rhaid i'r arian sydd wedi'i arbed gael ei wario yma yng Nghymru".

"Ni fyddai'n deg i Gymru gael yr unig ran o'r rheilffordd sydd ddim yn cael ei gwella, ac yna gweld yr arian yn mynd tuag at Crossrail 2 neu Bwerdy'r Gogledd," meddai.

"Pan fydd HS2 yn golygu mai'r amser teithio o Fanceinion i Lundain fydd awr ac wyth munud, bydd y daith o Abertawe i Lundain yn cymryd dwy awr a thri chwarter.

"Dyw hyn ddim yn dod fel syndod bellach."

Mae'r adroddiad yn annog gweinidogion y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru i benderfynu ar brosiectau allai gael budd o'r arian sy'n cael ei arbed.

Mae hefyd yn galw am "ystyried ymarferoldeb" sythu'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe fel y gallai trenau deithio ar gyflymder uwch, allai gryfhau'r achos ar gyfer trydaneiddio yn y dyfodol.