GIG yn 'dal i fethu yn eu gwasanaeth i bobl ddall'

  • Cyhoeddwyd
Colli golwgFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai pobl sy'n colli eu golwg fod yn dioddef am nad ydyn nhw'n gallu darllen cyngor am wasanaethau iechyd, medd un elusen.

Yn ôl sefydliad y deillion, RNIB Cymru, mae hyn yn arwain at nifer o bobl yn methu apwyntiadau ac yn cael eu drysu gan gyngor am eu meddyginiaeth.

Dywedodd un wraig wrth BBC Cymru ei bod wedi ei hypsetio pan wrthododd un derbynydd â'i helpu i gwblhau ffurflen nad oedd yn gallu ei darllen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn goruchwylio byrddau iechyd er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau cyfathrebu.

'Cyfathrebu'n briodol'

Mae dros 107,000 o bobl yng Nghymru yn colli eu golwg yn ol RNIB Cymru, sy'n rhagweld y gallai'r ffigwr ddyblu erbyn 2050.

Cafodd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau, dolen allanol eu cyflwyno yn 2013 i sicrhau fod gwasanaethau'r GIG yn cyfathrebu'n briodol gyda phobl sydd wedi colli rhai o'u synhwyrau.

Ond dywedodd Ansley Workman, rheolwr rhwydaith gydag RNIB Cymru, wrth raglen Sunday Politics Wales fod yr elusen yn dal i glywed yn ddyddiol am bobl ddall a rhannol ddall yn wynebu problemau gyda materion fel cymryd meddyginiaeth.

"Yn nhermau darllen am y peryglon am feddyginiaethau a sut i'w cymryd, dydy'r print ddim yn ddigon mawr a dydy pobl ddim yn gallu ei ddarllen," meddai.

"Yn amlwg, gall hynny arwain at ddryswch i lawer o bobl."

"Felly ry'n ni'n poeni fod hyn yn niweidio lles pobl yng Nghymru ac nad y'n nhw'n gallu cael mynediad i wasanaethau y mae gan bawb yr hawl iddyn nhw.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru alw byrddau iechyd i gyfri i sicrhau nad yw pobl sydd wedi colli eu golwg yn cael gwasanaeth sydd ddim yn cwrdd â'u gofynion ac sy'n peryglu eu hiechyd."

'Deall anghenion yn allweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am sicrhau fod cleifion yn cael y wybodaeth ar ffurf briodol.

"Mae deall anghenion cyfathrebu'r claf yn effeithiol yn allweddol, a dyna pam ym mis Tachwedd, yr aethon ni ati i gryfhau'r safonau drwy ei gwneud hi'n ofyniad i feddygfeydd adnabod a chofnodi anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cleifion sydd wedi colli synnwyr.

"Rydym hefyd yn parhau i fonitro cynlluniau perfformiad byrddau iechyd ac yn cydwetihio gyda Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i sicrhau fod y safonau'n cael eu gweithredu."

Mae Sunday Politics Wales ar BBC One Cymru ddydd Sul, 20 Mai am 11:00