Selby'n colli ei deitl IBF pwysau plu'r byd i Warrington
- Cyhoeddwyd

Colli fu hanes y bocsiwr o'r Barri, Lee Selby nos Sadwrn, wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl IBF pwysau plu'r byd.
Ei wrthwynebydd, Josh Warrington aeth â'r teitl, a hynny ar ei domen ei hun yn Leeds.
Selby, 31 oed, oedd y ffefryn cyn yr ornest, ond daeth Warrington, 27, allan yn gryf yn y rowndiau cyntaf gan achosi anafiadau i Selby ar ei ddau lygad.
Fe lwyddodd Selby i ddod yn ôl i mewn i'r ornest, ond roedd y drwg wedi ei wneud, er bod y tri beirniad yn rhanedig ar bwyntiau - 116-112 115-113 113-115.
Dyma'r tro cynta mewn naw mlynedd i Lee Selby golli gornest, a'r ail yn ei yrfa.

Josh Warrington yn dathlu wedi cipio teitl pwysau plu'r byd oddi ar Lee Selby
Yn dilyn yr ornest, diolchodd Lee Selby am y gefnogaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Ar ei gyfrif Twitter, awgrymodd fod colli'r ornest yn garreg filltir bwysig yn ei yrfa, ac y gallai newid cyfeiriad: "Fi oedd Pencampwr Byd hiraf Prydain, ond roedd 'na bris i hynny, ac fe deimlais hynny yn sgwâr neithiwr.
"Dwi wedi bod yn cyrraedd y ffin pwysau plu ers 10 mlynedd ond roedd hon un ffeit yn ormod ar y pwysau yna, ac mae fy mherfformiad yn adlewyrchiad gwael o hynny.
"Llongyfarchiadau i Josh Warrington ac rwy'n dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol.
"Byddaf yn mwynhau'r haf gyda fy nheulu ac yna'n eistedd i lawr gyda fy nhîm i gynllunio'r her newydd gyffrous o ddod yn bencampwr byd dau bwysau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2018