Gêm ailgyfle Cwpan Pencampwyr Ewrop: Ulster 35-17 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Scott Otten o'r Gweilch yn taclo Craig Gilroy, sgoriodd ddau o geisiau Ulster
Fydd y Gweilch ddim yn chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Ulster ddydd Sul.
Y Gweilch aeth ar y blaen gyntaf ym Melffast, gyda chais gan Alun Wyn Jones, cyn i Craig Gilroy sgorio ddwywaith i fynd â'r tîm cartref ar y blaen.
Ath Kieran Treadwell ag Ulster ymhellach ar y blaen, cyn i Jeff Hassler daro'n ôl i'r ymwelwyr.

Cais Jeff Hassler yn rhoi gobaithi 'r Gweilch
Fe drosodd John Cooney chwech chic i Ulster yn ystod y gêm, ac fe seliwyd eu buddugoliaeth gyda chais James Stockdale, cyn i Dan Biggar sgorio gwobr gysur i'r Gweilch.
Mae'r golled ym Melffast yn golygu mai yng Nghwpan Her Ewrop y bydd y Gweilch yn chwarae flwyddyn nesa, tra bod Ulster yn sicrhau'r seithfed lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop 2018-19.