Dewi Pws: Yr Eisteddfod yn 'cofio a dathlu un o fawrion y genedl'

Dewi Pws yn cael ei holi yn y rhaglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C yn 2021
- Cyhoeddwyd
"Byddai Dewi wrth ei fodd bod rhai o'i ganeuon enwocaf yn atsain o gwmpas maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam," medd ei wraig Rhiannon ar drothwy noson Nwy yn y Nen a fydd yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes nos Lun.
Bu farw Dewi 'Pws' Morris - un o ffigyrau mwyaf amryddawn a phoblogaidd byd adloniant Cymru - ddiwedd Awst 2024 yn 76 oed.
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers blynyddoedd, oedd prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws.
Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.
Dewi Pws a gyfansoddodd y caneuon Lleucu Llwyd a Nwy yn y Nen, cân fuddugol Cân i Gymru 1971 - dwy o ganeuon a fydd yn sicr o gael eu canu nos Lun.
Dewi 'Pws' Morris
"Byddai Dewi wedi gwirioni [cael noson o'r fath]", meddai ei wraig Rhiannon.
"Efallai na fyddai'n deall pam y byddai pobl yn canu ei ganeuon ond byddai'n ei hystyried yn anrhydedd fawr.
"Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymryd rhan yn y cyngerdd, a'i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau."
Ychwanegodd Rhiannon y bydd hi'n noson emosiynol ond ei bod yn edrych ymlaen at deithio yn y camper fan 'Lleucu Llwyd' o Ben Llŷn i Wrecsam.
Cafodd Dewi Pws ei urddo i'r Orsedd yn 2010 - y flwyddyn yr oedd yn Fardd Plant Cymru.
Ei enw barddol oedd Dewi'n y Niwl ac yn 2023 yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd bu'n cymryd rhan yn seremonïau'r Orsedd.

Dewi Pws yn canu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023
Cleif Harpwood a gafodd y syniad am y cyngerdd a Mei Gwynedd sy'n gyfrifol am ddewis y caneuon.
"Dwi'n credu mai syniad a gododd yn naturiol iawn i ddweud y gwir yn dilyn colli Dewi y llynedd, rwy'n credu oedd pawb yn teimlo y bydde'n syniad da i ddathlu bywyd Dewi mewn rhyw ffordd," meddai Cleif Harpwood.
"Mae caneuon Dewi yn fythol - mi fydd 'na bobl yn canu rhain gobeithio hyd at ddiwedd y ganrif.
"Roedd y caneuon wastad yn ymwneud â Chymreictod a Chymru a'r diwylliant oherwydd mi roedd Dewi wrth gwrs yn gallu cyfleu'r neges genedlaethol 'ma trwy ganeuon a thrwy gerddi.
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
"Oedd lot o gerddoriaeth Dewi yn gyrru'r chwyldro a'r frwydr genedlaethol yn ôl yn y 70au a'r 80au.
"Roedd gwaith cerddorol Dewi yn eang. Dechreuodd e gyda chaneuon telynegol, wedyn caneuon oedd yn fwy o sbort - fwy gwerinaidd eu naws yn felodig ac yn y blaen i'r Tebot a wedyn wrth gwrs mi drodd e at roc a rôl.
"Wedyn yn hwyrach y degawdau diwethaf yma, mi drodd e nôl at y traddodiad gwerin ac yn ôl i'r ochr delynegol - ro'dd e'n dipyn o fardd hefyd, yn gyfansoddwr oedd yn gallu cyfuno'r geiriau gyda cherddoriaeth."
'Dewch i oleuo'r noson'
Ymhlith y rhai a fydd yn perfformio mae Band Tŷ Potas gyda Pedair, Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, Cleif Harpwood, Hefin Elis a mwy.
"Wi'n credu, a ma'r neges yma gan Rhiannon hefyd, dewch i fwynhau, dewch i ddathlu Dewi nid yn unig trwy gofio fe ond trwy fwynhau ei gerddoriaeth e.
"Dyna'r nod heno yw bod pawb yn cael amser da a dyna fyddai Dewi eisiau dwi'n meddwl, yw bod pawb yn dod yna i gydganu ac i joio.
"Roedd e'n gredwr mawr mewn cael y gynulleidfa i fod yn rhan o'r digwyddiad ac felly dewch a'ch ffonau symudol er mwyn i ni oleuo'r noson heno gydag ambell gân ac wedyn cofiwch ein bod ni nid yn unig yn cofio ond dathlu un o fawrion y genedl," ychwanegodd Cleif Harpwood.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.