Sefyllfa gwerthu llyfrau plant yng Nghymru yn 'argyfyngus'

Dywedodd Lefi Gruffudd mai dyma'r sefyllfa waethaf iddo ei gweld erioed o ran gwerthiant llyfrau plant
- Cyhoeddwyd
Mae'r sefyllfa o ran prynu a gwerthu llyfrau plant yn "ddifrifol" ac yn "argyfyngus", yn ôl pennaeth cyhoeddi Gwasg y Lolfa.
Dywedodd Lefi Gruffudd, sydd â stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ei fod yn gobeithio y bydd gwerthiant a diddordeb mewn llyfrau Cymraeg yn cynyddu, ond mai dyma'r sefyllfa waethaf iddo ei gweld "erioed".
Mae'n galw am ragor o gymorth gan y llywodraeth a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darllen i fynd i'r afael â'r "argyfwng o ran llythrennedd plant".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu amrywiaeth o brosiectau llythrennedd i gefnogi ac annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Ar hyn o bryd, mae Mr Gruffudd wir yn bryderus am faint o blant a phobl ifanc sy'n darllen llyfrau.
Esboniodd fod y Lolfa wedi gweld gwerthiant yn haneru i gymharu â sawl blwyddyn yn ôl.
"Ry' ni'n wirioneddol ofidus bod dim gwelliant yn mynd i fod yn y dyfodol agos," meddai.
"Mae angen cydlynu o'r llywodraeth i ddatblygu darllen fel sgil sylfaenol i blant mewn ysgolion cynradd a thu hwnt.
"Mae angen i'r llywodraeth a'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â darllen fod yn ymwybodol ei bod hi'n argyfwng o ran llythrennedd plant."
Ychwanegodd: "Os nad oes rhywbeth difrifol yn cael ei wneud o ran sicrhau fod llyfrau yn mynd o flaen plant a'u bod yn cael eu dysgu yn iawn, bydd hi'n gwaethygu a bydd hynny yn golygu na fydd neb yn cyhoeddi nac ysgrifennu llyfrau plant fel ry' ni'n ei wneud nawr."
'Angen tynnu'r snobyddrwydd allan o ddarllen'
Yn y cyfamser, bu awduron, disgyblion ac athrawon yn trafod perthynas pobl ifanc gyda darllen fel rhan o sgwrs banel ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sul.
Mae pryder am y gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng wyth a 18 oed sy'n mwynhau darllen - gyda'r ganran yn 2024 ar ei lefel isaf ers i elusen yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd ddechrau ymchwilio i'r mater yn 2005.
Yn ôl Shoned Davies, swyddog ysgolion gyda'r Cyngor Llyfrau, mae gwrando ar leisiau pobl ifanc yn y broses o gyhoeddi llyfrau yn hollbwysig.
Mae gwaith ymchwil yr ymddiriedolaeth yn awgrymu gostyngiad yn y nifer sy'n mwynhau darllen.
Roedd 76,131 o blant a phobl ifanc drwy Gymru a Lloegr wedi ymateb i'r arolwg diweddaraf.
Un o bob tri (34.6%) yn unig oedd yn dweud eu bod yn mwynhau darllen yn eu hamser hamdden. Roedd cynnydd bach (40.5%) yn y nifer oedd yn mwynhau darllen yn yr ysgol.

Cafodd sgwrs banel arbennig ei chynnal yn Y Babell Lên ddydd Sul i drafod sut mae annog mwy o bobl ifanc i ddarllen
Mae Shoned Davies wedi sefydlu panel o bobl ifanc er mwyn clywed eu barn nhw am ddarllen a llyfrau.
"Ry' ni (Y Cyngor Llyfrau) wedyn yn pasio'r wybodaeth i'r cyhoeddwyr sydd wedyn, gobeithio, yn pasio hyn ymlaen i'r awduron," meddai.
"Mae'n rhaid i bobl ifanc gael darllen be ma' nhw eisiau ei ddarllen.
"Ma'n rhaid tynnu'r snobyddrwydd allan o ddarllen - does dim bwys be 'da chi'n ei ddarllen cyn belled â bo' chi'n darllen ac ymfalchïo yn be 'da chi'n ddarllen."
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
Dywedodd Einir Lois Jones, dirprwy bennaeth Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam:
"Mae hyrwyddo llyfrau yn hynod o bwysig trwy safleoedd fel Facebook ag ati neu mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod a gwobr Goffa Daniel Owen.
"Ma' hyn yn dylanwadu yn fawr ar bobl, ac yn aml iawn fe fyddwn ni yn darllen yn ôl argymhellion pobl."
Mae Branwen a Ffion, disgyblion yn Ysgol Morgan Llwyd, yn cytuno bod angen edrych eto ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i annog darllen a hyrwyddo llyfrau.
"Ma' 'na lot o hyrwyddo llyfrau Saesneg yn digwydd ar bethau fel TikTok ac Instagram, ond dwi ddim yn gweld dim am lyfrau Cymraeg," meddai Branwen.
"Dwi'n meddwl be' fyddai'n helpu yw os oes enwau mawr yn hyrwyddo llyfr Cymraeg, bydda' rhywun fel Ariana Grande yn dweud 'I love this Welsh book' yn helpu!" ychwanegodd Ffion.
'Teimlo fel eu bod yn cael eu gorfodi i ddarllen'
Dyw hyrwyddo ar-lein ddim wastad yn hawdd i awduron fel Rebecca Roberts.
"Dwi'n ddiolchgar i'r Cyngor Llyfrau a fy ngwasg a dwi fel awdur yn gwneud cymaint â galla' i ar Instagram a Facebook ond dyw'r algorithm ddim fel petai yn hoffi cynnwys Cymraeg," meddai.
"Mae'r platfform wedi anelu at hyrwyddo awduron Saesneg. Mae hyrwyddo wyneb yn wyneb yn gweithio'n dda i fi."

Yn ôl Bethan Mair Ellis, cadeirydd y Pwyllgor Llên yn Wrecsam, mae holi pam bod pobl ddim yn darllen llyfrau yn gwestiwn hynod bwysig.
"Yn gyffredinol mewn cymdeithas ma' pobl yn treulio llai o amser gyda llyfr oherwydd bod ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol yn mynd a'u bri gan bo' nhw'n gallu gweld llawer o bethau mewn amser byr.
"Efallai bod pobl wedi anghofio'r effaith mae darllen llyfr yn gallu ei gael ar broblemau cymdeithasol a rhyddhau straen."
Weithiau fe all plant golli'r awch i ddarllen oherwydd bod gofyn iddyn nhw astudio llyfr.
Dyna yw pryder Holly Gierke, sy'n athrawes yn Ysgol Morgan Llwyd: "Weithiau mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddarllen, neu'n darllen er mwyn astudio.
"Efallai bod angen mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc i fwynhau'r profiad o ddarllen."
'Annog teuluoedd i ddarllen'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn mwynhau darllen yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol.
"Rydyn ni wedi darparu amrywiaeth o gymorth ychwanegol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys £13m ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i gefnogi llythrennedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth penodol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg.
"Rydyn ni hefyd yn ariannu amrywiaeth o brosiectau llythrennedd i gefnogi ac annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd.
"Mae hyn yn cynnwys Sialens Darllen yr Haf yn llyfrgelloedd a Dechrau Da sy'n darparu llyfrau, adnoddau a gweithgareddau i deuluoedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.