Rhai cleifion o Gymru i wynebu oedi hirach am driniaeth yn Lloegr

Doctoriaid gyda chlaf mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 40% o gyllideb Bwrdd Iechyd Powys yn cael ei wario ar wasanaethau y tu allan i'w ffiniau

  • Cyhoeddwyd

Fe all cleifion o Gymru sydd yn disgwyl llawdriniaethau yn Lloegr wynebu oedi hirach ar ôl i ysbytai dros y ffin gael eu hannog gan fwrdd iechyd i ddilyn yr un drefn o ran amseroedd aros.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyhoeddi'r newid gan nad ydynt yn gallu ymdopi â'r gost sydd ynghlwm â llawdriniaethau yn digwydd yn gynt yn Lloegr, ond ni chafodd cleifion wybod am y newid.

Ers 1 Gorffennaf, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gofyn i ysbytai yn Henffordd, Amwythig, Telford a Chroesoswallt i seilio amseroedd aros ar gyfer cleifion o Gymru ar y sefyllfa yng Nghymru.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Hayley Thomas y dylai pobl yn yr ardal gael eu trin yn yr un modd â thrigolion mewn unrhyw ran arall o Gymru".

Mae tua 40% o gyllideb y bwrdd iechyd yn cael ei wario ar wasanaethau y tu allan i'w ffiniau - a nid oes gan y bwrdd ysbyty cyffredinol ei hun.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dweud bod 10,254 o achosion o bobl yn aros dwy flynedd neu'n hirach am driniaeth yng Nghymru, o'i gymharu â 158 yn Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "dal wedi ymroi i leihau amseroedd aros ac i sicrhau fod pawb yng Nghymru - gan gynnwys pobl Powys - yn gallu cael mynediad i driniaeth amserol a safonol".

Gan fod llawdriniaethau yn digwydd ar raddfa gynt dros y ffin, doedd Bwrdd Iechyd Powys methu ymdopi â'r gost, ond maen nhw'n deud y byddai'r cynllun diweddaraf yn arwain at arbedion o £16.4m.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y bwrdd iechyd fod angen iddyn nhw wneud arbedion o £26m, ac maen nhw wedi ymyrryd yn sgil pryderon am gyllid, strategaeth a chynllunio.

Mel Wallace
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mel Wallace yn "difaru" symud i Gymru oherwydd ei phrofiad o ddelio gyda'r gwasanaeth iechyd yma

Mae'r newid yn golygu fod pobl o Bowys yn wynebu gorfod aros dwy flynedd am rai llawdriniaethau, ond nid yw hynny'n cynnwys cleifion risg uchel megis plant a phobl gyda chanser.

Cafodd Mel Wallace, 59 oed o Hawy, wybod yn wreiddiol y byddai'n aros 12 mis am glun newydd, ond mae hi bellach yn wynebu aros 45 wythnos arall ar ben y 59 wythnos mae hi eisoes wedi gorfod aros.

Roedd Ms Wallace yn mwynhau mynd â'i chŵn am dro, garddio a gyrru ei beic modur, ond erbyn hyn mae hi'n ei chael hi'n anodd rhoi ei sanau ymlaen.

Mae hi'n dweud bod ei phrofiad gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gwneud iddi "ddifaru symud yma".

"Dydyn nhw (GIG) ddim hyd yn oed wedi anfon llythyr i adael i bobl wybod fod hyn am eu heffeithio," meddai.

Mae hi am weld y polisi yn cael ei newid, gan ddadlau na ddylai amseroedd aros cleifion oedd eisoes wedi cael dyddiad am driniaeth gael eu heffeithio.

Stephen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Evans yn dweud ei fod yn haeddu'r un fath o driniaeth â chleifion yn Lloegr

Cafodd Stephen Evans, 66 o Lanfair ym Muallt, wybod ym mis Mai y byddai'n cael llawdriniaeth ar ei ben-glin "yn yr wythnosau nesaf", a hynny yn Henffordd.

Ond pan gysylltodd â'r ysbyty fe wnaeth staff ddweud wrtho y gallai orfod aros blwyddyn arall.

"Pan mae eich bywyd chi bron ar stop oherwydd penderfyniad fel hyn, rydych chi'n haeddu'r gwir - nid ryw esgus," meddai.

"Dwi'n dewis byw yma, ond dwi'n haeddu'r un fath o ofal meddygol â rhywun sy'n byw dros y ffin yn Lloegr."

'Ni allwn wario arian sydd ddim gennym ni'

Yn ôl prif weithredwr y bwrdd iechyd, Hayley Thomas, maen nhw'n "deall fod y newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n comisiynu gwasanaethau iechyd am fod yn siomedig ac yn achos rhwystredigaeth i nifer o gleifion a'u teuluoedd".

"Ni allwn ni barhau i wario arian sydd ddim gennym ni er mwyn cynnig triniaethau cynt o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad.

"Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ymddwyn yn deg ac mewn ffordd sy'n gwarchod gwasanaethau hanfodol i bawb."

Dywedodd Aelod Seneddol Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwich nad oedd o'n deall y penderfyniad gan fod lleihau amseroedd aros yn "flaenoriaeth" i lywodraethau Llafur Cymru a'r DU.

"Dyw hyn ddim digon da, a dyna pam fod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod digon o gyllid gan y bwrdd iechyd i brosesu pobl yn gynt," meddai'r aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.