Derwyddon Cefn drwyddo i rownd gynragbrofol Cynghrair Europa
- Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed Derwyddon Cefn wedi sicrhau eu lle yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa wedi buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd.
Daeth unig gôl y gêm o droed James Davies, yn rhwydo'r bêl yn yr hanner cyntaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Derwyddon Cefn yn ymuno ag enillwyr Cwpan Cymru, Cei Connah a Bala yn rowndiau cynragbrofol Europa.
Dywedodd rheolwr Derwyddon Cefn, Huw Griffiths, mai dyma eiliad orau ei yrfa, a'i fod yn anodd cyfleu mewn geiriau yr hyn roedd y fuddugoliaeth yn ei olygu i'r clwb.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.