Carcharu dyn am oes am lofruddio'i wraig ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r Felinheli yng Ngwynedd wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei wraig yn ei chartref ym Mangor.
Cafodd Elizabeth 'Betty' Jordan, 53, ei thrywanu i farwolaeth gan ei gŵr Paul Jordan, 54, yn ardal Maesgeirchen ym mis Gorffennaf y llynedd.
Bydd Jordan yn treulio o leiaf 14 mlynedd dan glo.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Mr a Mrs Jordan wedi gwahanu, a bod Mr Jordan wedi gyrru i'r cartref priodasol a'i thrywanu am ei fod yn credu bod ei wraig yn cael perthynas â rhywun arall.
Bu farw Mrs Jordan yn yr ysbyty yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
'Salwch meddwl difrifol'
Roedd Jordan wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar ôl cyfaddef ei fod wedi estyn cyllell o'r gegin a thrywanu ei wraig mewn ystafell wely, ond roedd yn gwadu ei llofruddio.
Yn ystod yr achos roedd yr amddiffyniad yn mynnu bod Jordan yn dioddef o salwch meddwl difrifol, ac nad oedd yn ei iawn bwyll.
Ond yn ôl yr erlyniad roedd wedi teithio i Fangor o'r Felinheli gyda'r bwriad o ladd ei wraig.
Clywodd y llys fod Jordan yn gweithio i BT, yn uchel ei barch ac yn gyn-lywodraethwr ysgol.
Dywedodd seiciatrydd wrth y llys fod ganddo broblemau iechyd meddwl gan gynnwys paranoia.
Ond clywodd y llys nad oedd tystiolaeth bod Mrs Jordan, oedd yn ofalwr, mewn perthynas â rhywun arall.
'Atgofion rhyfeddol'
Wedi'r ddedfryd fe apeliodd teulu Mrs Jordan ar bobl i roi cymorth a chefnogaeth i unrhyw un annwyl sydd o bosib yn dioddef problemau iechyd meddwl neu alcohol.
Dywedodd y teulu mewn datganiad eu bod yn gobeithio atal eraill "rhag mynd trwy'r hyn rydym ni wedi'i ddioddef mewn naw mis o alaru".
"Does neb yn ennill yn yr amgylchiadau yma... fedrwn ni fyth ddod â Mum yn ôl, ond fe fyddwn ni wastad ag atgofion rhyfeddol ohoni."
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwch Arolygydd Brain Kearney o CID Caernarfon fod Paul Jordan "wedi amddifadu eu plant o'u rhieni" wedi ymosodiad "treisgar a direswm".
Ychwanegodd fod yr heddlu'n "gweld cynnydd yn lleol a chenedlaethol mewn troseddau treisgar lle mae gormod o alcohol neu lesiant meddwl unigolyn wedi bod yn ffactor cyfranogol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018