Pwyslais ar gydberthnasau mewn gwersi addysg rhyw

  • Cyhoeddwyd
Addysg Rhyw

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi y bydd newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y ffordd y mae addysg rhyw'n cael ei ddysgu yn ysgolion Cymru.

Dan y cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno yn 2022 fe fydd 'na fwy o bwyslais ar bwysigrwydd cynnal cydberthnasau iach a hapus.

Yn dilyn adroddiad gan bwyllgor o arbenigwyr, mae Kirsty Williams wedi dweud y bydd Addysg Rhyw a Chydberthnasau yn newid i fod yn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Wrth ymweld â Blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Casnewydd fe ddywedodd Ms Williams fod "dyddiau addysg rhyw draddodiadol wedi hen fynd".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Williams AC yn siarad gyda disgyblion yn Ysgol Gymraeg Casnewydd

"Mae'r byd wedi symud ymlaen a rhaid i'n cwricwlwm wneud yr un fath," meddai.

Dan y drefn bresennol mae addysg rhyw a chydberthynas yn rhan statudol o'r cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru, ond mae gan ysgolion hawl i benderfynu sut i gyflwyno'r pwnc.

Dan addysg cydberthynas a rhywioldeb bydd disgyblion yn cael dealltwriaeth ehangach o rywioldeb sy'n cynnwys y gymuned LGBTQI+.

Ychwanegodd Ms Williams: "Mae'n ffaith bod cydberthynas a rhywioldeb yn siapio'n bywydau yn ogystal â'r byd o'n cwmpas.

"Maent yn rhan hanfodol o bwy ydym ni a sut rydym ni'n deall ein hunain, ein gilydd a chymdeithas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfarwyddwr Stonewall Cymru Andrew White yn aelod o'r pwyllgor o arbenigwyr

Un o aelodau'r pwyllgor oedd cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White. Dywedodd fod y cam yn "gyfle cyffrous " ac yn rhywbeth y mae Stonewall Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ei gylch ers amser.

"Mae'r plant yn cael y wybodaeth yma'n barod gan y teledu, gan blant eraill ar yr iard, ar y we," meddai.

"Mae'n dod yn rhywbeth o gywilydd, mae'n dod yn rhywbeth 'dyn nhw ddim yn cael trafod gydag oedolion a mae'n dod yn broblem wedyn i lot o bobl."

'Peidio chwerthin'

Mae'r adroddiad wedi cael ei groesawu gan nifer o elusennau gan gynnwys NSPCC Cymru.

Dywedodd pennaeth yr elusen, Des Mannion: "Mae hyn yn drobwynt i'n plant a phobl ifanc, ein hysgolion a'r cwricwlwm cenedlaethol.

"Mae'n gam positif a fydd o gymorth i blant allu ddeall ymddygiad a pherthnasau iach a sut i gadw'u hunain yn ddiogel".

Roedd yna groeso i'r newid pwyslais ymhlith disgyblion Ysgol Gymraeg Casnewydd.

Dywedodd un fod trafodaethau'n "rhoi siawns i ni rannu gyda phobl arall rydyn ni'n ymddiried ynddo i beidio chwerthin arnom".