Disgwyl cyhoeddiad yn fuan am fasnachfraint trenau Cymru

  • Cyhoeddwyd
trenau South EasternFfynhonnell y llun, Keolis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau gwmni yn y ras eisoes yn rhedeg rhai gwasanaethau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr

Fydd y cwmni nesaf i gael masnachfraint trenau Cymru ddim yn cael eu talu os nad ydyn nhw'n cadw at addewidion fel prydlondeb, hylendid a safon y gwasanaeth.

Dywedodd pennaeth Trafnidiaeth Cymru fod y cytundeb yn cynnwys cymalau ynghylch y gwasanaeth oedd ddim yno gynt.

Mae disgwyl i'r cwmni llwyddiannus, fydd hefyd yn gyfrifol am Fetro De Cymru, gael eu cyhoeddi yn y 24 awr nesaf.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn trafod y manylion terfynol ddydd Mawrth.

Dau yn y ras

Bydd y fasnachfraint newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2018, gyda'r cwmni newydd yn cymryd lle Trenau Arriva Cymru sydd wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth ers 15 mlynedd.

Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price mai'r bwriad oedd cysylltu pob rhan o Gymru, ac y byddai mwy o bwyslais ar deithio hamdden ac ar yr henoed.

Bydd hefyd terfyn ar faint o elw sy'n cael ei ganiatáu, gydag unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Price y byddai terfyn ar faint o elw y bydd y cwmni'n cael ei wneud

Dau gwmni sydd yn cystadlu am fasnachfraint Cymru a'r Gororau:

  • KeolisAmey - cwmni sydd eisoes yn rhedeg rheilffordd Docklands yn Llundain a gwasanaethau ym Manceinion a Nottingham, yn ogystal â nifer o ddinasoedd eraill ar draws y byd. Y prif gyfranddaliwr yw'r cwmni sy'n rhedeg trenau Ffrainc, SNCF.

  • MTR - nhw sydd yn rhedeg metro Hong Kong - un o'r prysuraf yn y byd - yn ogystal â rhai o wasanaethau trên Llundain.

Mae disgwyl i'r cytundeb newydd olygu bod y cwmni buddugol yn cymryd rheolaeth o 124 milltir (200km) o drac oddi wrth Network Rail, gan olygu'r gallu i uwchraddio'r llwybrau.

Mae bwriad hefyd i sicrhau fod gwerth £5bn o fuddsoddiadau dros 15 mlynedd yn dod o fewn cyrraedd cwmnïau lleol bach a chanolig.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" i ddylunio gwasanaeth fydd yn ateb y galw cynyddol o ran nifer y teithwyr a'u disgwyliadau.

"Dyma'r tro cyntaf ers datganoli i Gymru gael y cyfle i ddylunio rhywbeth i'w hun," meddai Mr Price.

"Fe wnaethon ni etifeddu beth oedd gennym ni gynt. A bydd llawer o bobl wedi profi hyn ddydd i ddydd - cyrraedd gorsaf drenau dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n gallu dal trên."

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi i'r farchnad stoc ac i ACau yn y Senedd.

Ond does dim disgwyl manylion llawn am y fasnachfraint newydd tan fis nesaf, a bydd y cwmni aflwyddiannus yn cael 10 diwrnod i apelio'r penderfyniad.