Trafod cau ffrwd Saesneg mewn ysgol yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Roedd dwsinau o rieni, athrawon a llywodraethwyr yn bresennol mewn cyfarfod nos Lun i drafod dyfodol ffrwd Saesneg ysgol yn y canolbarth.
Mae llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi anfon llythyr at rieni i ddweud wrthyn nhw eu bod wedi penderfynu mewn egwyddor i beidio parhau i ddarparu ffrwd Saesneg ar gyfer dechreuwyr newydd o fis Medi.
Ond ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar ddisgyblion sydd eisoes yn y ffrwd.
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Dr Huw Morgan fod niferoedd y ffrwd Saesneg wedi "mynd yn fach iawn" dros y blynyddoedd diwethaf.
'Dosbarthiadau mor fach'
Ysgol ddwy ffrwd yw Bro Hyddgen, sy'n darparu addysg ar gyfer tua 600 o ddisgyblion rhwng pedair a 18 oed.
Cafodd ei sefydlu yn 2014 pan gafodd Ysgol Gynradd Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi eu huno o dan yr un pennaeth a'r un corff llywodraethol.
Dywedodd Dr Morgan wrth y cyfarfod: "Dros y blynyddoedd mae'r niferoedd yn y ffrwd Saesneg wedi mynd yn fach iawn.
"Er enghraifft, yn y ffrwd Gymraeg fe fyddai dros 20 yn gyson ac wedyn yn y Saesneg fe fyddai rhyw bump neu chwech ym mhob blwyddyn.
"Mae'n amhosib y dyddiau yma i gynnal dosbarthiadau mor fach felly ry'n ni'n cyfuno dosbarthiadau - eleni 'dan ni wedi gorfod cyfuno pedair blwyddyn yn y ffrwd Saesneg i greu un dosbarth gweddol o faint."
Dywedodd Dr Morgan bod y llywodraethwyr wedi clywed mai dim ond tri o blant oedd yn bwriadu ymuno â dosbarth derbyn y ffrwd Saesneg ym mis Medi, er iddo gydnabod efallai nad dyna fyddai'r nifer terfynol.
Ychwanegodd nad yw'r llywodraethwyr wedi penderfynu cau'r ffrwd Saesneg yn gyfan gwbl ar unwaith - mae'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd yn raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Roedd tua 80 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod ym Machynlleth nos Lun, y mwyafrif o blaid y system ddwy ffrwd ac am gadw'r ffrwd Saesneg ar agor.
Cefnogaeth y cyngor
Dywedodd trefnydd y cyfarfod, Aimee Roberts, bod cannoedd o enwau wedi'u casglu ar ddeiseb yn gwrthwynebu cynnig y llywodraethwyr, a bod gan hyd at 10 o deuluoedd ddiddordeb mewn anfon plant at y ffrwd Saesneg ym mis Medi.
Yn ôl Llinos Griffith, cyn-athrawes yn Ysgol Bro Hyddgen, mae plant yn y ffrwd Saesneg yn dysgu Cymraeg hefyd.
"Maen nhw'n cael gweithgareddau Cymraeg gyda phlant o'r ffrwd Gymraeg, ac maen nhw'n dod i siarad yn reit dda," meddai.
"Mae plant o'r ffrwd Saesneg wedi cymryd rhan yn y gorffennol mewn Eisteddfodau."
Dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander, sy'n gyfrifol am addysg a'r iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Powys: "Mae'r cyngor sir eisiau i'r ysgolion unigol edrych yn fanwl ar y problemau sydd ganddyn nhw a chael hyd i atebion.
"Mae cynnig y llywodraethwyr yn ymddangos i fi fel penderfyniad ymarferol i ymateb i sefyllfa gyllideb yr ysgol ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Ms Alexander nad yw'n benderfyniad sydd wedi'i wneud gan gynghorwyr, ond y byddai'n rhywbeth fyddai'n derbyn cefnogaeth y cabinet.
Er hynny, dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yn bosib gweithredu penderfyniad gafodd ei wneud "mewn egwyddor" mewn modd ymarferol erbyn mis Medi.
Bydd y corff llywodraethol yn cwrdd nos Iau i ystyried y sylwadau gafodd eu gwneud yn y cyfarfod, ac mae'n bosib y bydd mwy o eglurder hefyd ynglŷn ag union nifer y disgyblion fydd yn ymuno â'r ddwy ffrwd ym mis Medi cyn i'r llywodraethwyr benderfynu ar eu cam nesaf.